Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi cadarnhau cyfres o fesurau wrth rybuddio bod angen gweithredu’n genedlaethol er mwyn lleihau peryglon y coronafeirws.
Wrth annerch y genedl, fe ddywedodd fod “posibilrwydd go iawn y gallen ni weld y feirws yn adennill tir” a bod angen cymryd camau “fel rhan o weithredu wedi’i gydlynu” ledled gwledydd Prydain.
Bydd yn rhaid i dafarndai, caffis a bwytai yng Nghymru gau am 10yh o ddydd Iau (24 Medi) ymlaen, gyda siopau trwyddedig ac archfarchnadoedd hefyd yn cael eu hatal rhag gwerthu alcohol ar ôl 10pm o’r noson honno.
Bydd hefyd rhaid i dafarndai weithredu gyda gwasanaeth bwrdd yn unig.
Mae pobol yn cael eu hannog i weithio o gartref lle bo hynny’n bosib.
Uchafswm o chwech o bobol o aelwydydd estynedig fydd yn cael cyfarfod dan do, a bydd rhaid gwisgo mygydau mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dim ond teithiau angenrheidiol sy’n cael eu hargymell.
Bydd gweithwyr sy’n gorfod hunanynysu yn derbyn lwfans o £500 os ydyn nhw ar gyflogau isel, a bydd cyflogwyr yn cael eu hannog i gefnogi gweithwyr os bydd angen.
Sylwadau pellach
“Unwaith eto, rydyn ni’n wynebu achosion cyyddol o heitiadau coronafeirws mewn gwahanol rannau o Gymru ac unwaith eto, rydyn ni’n gweld pobol yn cael eu derbyn i’n hysbytai â salwch difrifol oherwydd y feirws yma,” meddai Mark Drakeford.
“Yn yr wythnosau a’r misoedd o’n blaenau, mae yna bosibilrwydd go iawn y gallen ni weld y coronafeirws yn adennill tir yn ein cymunedau lleol, ein trefi a’n dinasoedd.
“Does neb ohonom eisiau gweld hynny’n digwydd eto.
“Mewn rhai rhannau o dde Cymru, lle’r ydyn ni wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn achosion, mae yna gyfyngiadau lleol llymach fyth yn eu lle i warchod iechyd pobol.
“Bellach, mae angen i ni wneud y gwahaniaeth hynny ledled Cymru.
“Gyda chymorth pobol ledled Cymru y daethon ni drwy’r don gyntaf yn y gwanwyn – fe wnaethoch chi ddilyn y rheolau i gyd a helpu i leihau achosion o’r coronafeirws, gan warchod y Gwasanaeth Iechyd ac achub bywydau.
“Mae angen arnom i bawb ddilyn y rheolau a’r canllawiau ac i ddilyn y camau i’w gwarchod nhw a’u hanwyliaid.
“Gyda’n gilydd, gallwn gadw Cymru’n ddiogel.
“Diolch yn fawr i chi gyd.”
‘Neges genedlaethol’
“Yn amlwg, dw i ddim wedi fy mhlesio oherwydd fyddwn i ddim am weld y cyfyngiadau hyn yn y lle cyntaf,” meddai Andrew RT Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, ar raglen newyddion arbennig BBC Cymru.
“Byddwn i wedi gobeithio y bydden ni wedi gwneud mwy o gynnydd.
“Yn anffodus, mae’r feirws wedi dychwelyd, felly mae’n bwysig, lle bo’n bosib, fod yna neges genedlaethol y gall pobol ei deall a sylweddoli y goblygiadau ar y gymdeithas gyfan a chadw at y goblygiadau hynny.
“Oherwydd gweithio gyda’n gilydd fydd yn gwasgu ar y feirws yma ac yn ei drechu yn y pen draw.
“Ond na, dw i ddim yn hapus achos dw i ddim yn meddwl y byddai neb ohonom eisiau bod yn y sefyllfa hon lle byddai angen i ni ailgyflwyno’r mesurau hyn.”
Gweithredu’n lleol
Yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, mae’n bwysig fod Cymru’n parhau i weithredu’n lleol er mwyn ceisio trechu’r feirws.
Ac mae’n dweud y byddai’r blaid wedi hoffi gweld tafarnau yn yr ardaloedd lle mae niferoedd uchel o achosion yn cael eu cau.
“Dw i’n meddwl, oherwydd fod y patrwm ledled Cymru yn dal yn eitha’ gwahanol, mewn gwirionedd mae’n bwysig ein bod yn parhau i weithredu’n lleol lle bo’n bosibl,” meddai wrth y BBC.
“Dw i eisiau gwybod mwy am y dystiolaeth a’r strategaeth y tu ôl i’r feddylfryd.
“Bydda i’n cyfarfod â’r prif weinidog bore fory, felly byddwn ni’n clywed mwy bryd hynny.
“Mae ganddyn nhw fynediad i’r data lle nad yw hynny gyda ni.
“Fy nheimlad i yw na fydd y polisïau sydd wedi’u cyhoeddi heno’n cael yr effaith a ddymunir.
“Rydyn ni i gyd eisiau’r un peth, ac rydyn ni am osgoi’r sefyllfa waethaf a gafodd ei chyhoeddi heddiw – miloedd yn rhagor o farwolaethau yng Nghymru.
“Rydyn ni eisiau i’r llywodraeth lwyddo.
“Dw i ddim yn sicr bod cau’r tafarnau am 10 o’r gloch ledled Cymru’n mynd i gael yr effaith honno,” meddai wedyn, gan ddweud ei fod yn “hanner mesur”.
Sylwadau Vaughan Gething
Yn gynharach, dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, fod Llywodraeth Cymru’n ystyried gorfodi tafarndai yng Nghymru i gau am 10yh.
“Rydyn ni’n barod i gau sectorau a’r economi er mwyn gwarchod ein hysgolion”, meddai wrth gyfarfod llawn o Senedd Cymru.
“Rydyn ni’n ystyried a ddylid symud amser cau tafarndai i 10yh – gallai’r cysondeb yma fod o gymorth i’r neges”.
Eglurodd Vaughan Gething fod Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried dilyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig a gofyn i dafarndai ddarparu gwasanaeth gweini wrth y bwrdd yn unig hefyd.
Mae tafarndai mewn ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol eisoes yn gorfod cau yng Nghymru am 11yh.
Cefndir
Bu rhaid i dafarndai gau fis Mawrth er mwyn mynd i’r afael â lledaeniad y coronafeirws.
Ailagorodd tafarndai, caffis a bwytai yng Nghymru sydd â mannau eistedd awyr agored ar Orffennaf 13.
Ailagorodd tafarndai, caffis a thai bwyta dan do ar Awst 3.
Rhestr o’r tafarndai yng Nghymru sydd wedi derbyn rhybuddion coronafeirws neu wedi’u cau.