Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi adroddiad i warchod cymunedau a phrynwyr tro cyntaf yn erbyn “annhegwch economaidd sy’n deillio o ail gartrefi”.
Eglurodd Delyth Jewell, llefarydd tai Plaid Cymru, fod yr argyfwng tai haf wedi dwysáu yn sgil y coronafeirws.
“Cafodd traean o dai yng Ngwynedd a Môn eu prynu fel ail dai yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac mae 12% o stoc tai Gwynedd bellach yn ail dai dan berchnogaeth pobol tu allan i’r sir, sydd ymysg yr uchaf yn Ewrop,” meddai.
“Mae’r gyfres o fesurau mae Plaid Cymru yn eu cyhoeddi heddiw wedi eu dylunio er mwyn dod â’r sefyllfa dan reolaeth a grymuso cymunedau gydag ymyraethau penodol a chytbwys, ac rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ddifri.”
Dilyn ol troed gwledydd eraill
“Mae gwledydd ledled y byd wedi gweithredu yn wyneb amgylchiadau tebyg, er enghraifft mae Seland Newydd a Denmarc wedi gwahardd gwerthu tai i bobol sydd ddim yn ddinasyddion”, meddai Delyth Jewell wedyn.
“Ac mae rhanbarth Bolzano yn yr Eidal wedi cyfyngu ar werthiant tai haf i bobol o’r tu allan i’r rhanbarth.”
Mae’r adroddiad yn cynnwys pum argymhelliad:
- Newidiadau i’r maes cynllunio fyddai’n galluogi cynghorau i osod cap ar ail gartrefi ym mhob cymuned, gwrthod ceisiadau i newid defnydd eiddo o fod yn eiddo cynradd i ail eiddo ac atal tai newydd rhag cael eu prynu fel ail dai mewn ardaloedd lle mae ail dai yn cynrychioli dros 20% o’r farchnad.
- Caniatáu i gynghorau godi treth y cyngor y gellid ei chodi ar ail gartrefi i o leiaf 200%.
- Diweddaru’r gyfraith sy’n golygu bod modd optio allan o drethi domestig ac o’r premiwm treth cyngor.
- Rheoli’r gallu i osod tŷ ar sail tymor byr drwy gwmnïau fel AirBnB am rannau helaeth o’r flwyddyn, drwy sicrhau rhagor o drosolwg o’r arfer.
- Dod â thai o fewn cyrraedd lleol – gan gynnwys y posibilrwydd o sefydlu cronfa i alluogi awdurdodau lleol i ddatblygu tai gydag amod lleol arnynt ond ar sail ‘nid er elw’.
Bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod ail gartrefi yn y siambr heddiw (dydd Mercher, Medi 23).