Mae prosiect newydd gwerth £20m ar droed ym Mhenygroes gyda’r bwriad o gyfuno gwasanaethau iechyd a lles mewn un adeilad.
Bydd yr adeilad yn cynnwys gwasanaethau iechyd, deintyddfa, fferyllfa, gwasanaethau cymdeithasol, gofal i bobol hŷn, meithrinfa a lleoliad ar gyfer y celfyddydau.
Mae’r gwaith yn bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Theatr Bara Caws a Grŵp Cynefin, y gymdeithas dai.
Dros y mis nesaf, bydd y gwaith yn dechrau ar y safle, gyda’r hen adeiladau’n cael eu dymchwel, yn ogystal ag ymgynghoriad â’r gymuned leol er mwyn darparu cynlluniau manwl ar gyfer y safle.
“Y bwriad ydi creu cynllun newydd sbon ac arloesol i wella iechyd a lles pobol sy’n byw ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle ac ardaloedd cyfagos,” meddai Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grŵp Cynefin wrth siarad â Radio Cymru.
Aeth yn ei blaen i egluro’r meddylfryd tu ôl i gynnwys lleoliad ar gyfer y celfyddydau a chydweithio â Theatr Bara Caws.
“Mae’r ochr gelfyddydol yr un mor bwysig i wella iechyd a lles unigolion ac mae gennym dystiolaeth o waith blaenorol mae Grŵp Cynefin wedi ei wneud gyda’r awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sy’n dangos faint mae buddsoddi mewn celfyddydau a gwasanaethau tebyg yn ei wneud i wella iechyd a lles pobol,” meddai.
Dod â gwahanol oedrannau at ei gilydd
Un o brif amcanion y prosiect newydd yw dod â gwahanol oedrannau at ei gilydd mewn un adeilad i dderbyn gofal.
Yn ôl Shan Lloyd Williams, mae’r math yma o ofal o fudd i bobol oedrannus yn enwedig.
“Rydan ni wedi gwneud dipyn o waith y ddiweddar efo Prifysgol Bangor, sy’n dangos y gwahaniaeth mae cael gwahanol genedlaethau at ei gilydd yn ei wneud wrth wella iechyd a lles pobol,” meddai.