Bydd Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn arwain adolygiad i ddeall sut mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) Cynhyrchiol yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn ysgolion ledled Cymru.

Bydd yr adolygiad yn archwilio’r defnydd cyfredol o becynnau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, ac yn archwilio’r manteision posibl i ysgolion, gan ystyried yr heriau y gallen nhw eu hwynebu hefyd.

Mae cam cynta’r adolygiad yn cynnwys arolwg ar gyfer ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn gofyn am eu barn a’u profiad, ac yna bydd ymgysylltu manylach ag athrawon.

Mae disgwyl i’r adroddiad ar ganfyddiadau’r gwaith ymchwil gael ei gyhoeddi yn yr haf.

I gefnogi ysgolion sy’n ystyried neu’n dechrau defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, mae canllawiau newydd wedi’u cyflwyno.

Mae’r canllawiau’n rhan o becyn ehangach o gymorth i ysgolion sydd ar gael ar Hwb, gafodd ei ddatblygu gyda chymorth arbenigwyr diogelwch ar-lein blaenllaw, gan gynnwys UK Safer Internet Centre, Common Sense Education, Praesidio Safeguarding a Internet Matters.

‘Posibiliadau mawr i ysgolion’

“Mae deallusrwydd artiffisial yn cyflwyno posibiliadau mawr i ysgolion; mae’r dechnoleg yn esblygu’n gyflym, ac mae’n hanfodol bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddelio â’r newidiadau,” meddai Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

“Trwy gael dealltwriaeth o’r arferion da sy’n cael ei ddefnyddio eisoes, gallwn helpu ysgolion i fanteisio’n gyfrifol ar y cyfleoedd y gallai AI eu cynnig, a pharhau i flaenoriaethu diogelwch a lles staff a dysgwyr.

“Mae Estyn mewn sefyllfa dda i gynnal yr adolygiad hwn, o ystyried eu dealltwriaeth ddofn o’r sector addysg yng Nghymru.

“Fel llywodraeth, rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, ac ymgysylltu â sefydliadau diogelwch ar-lein blaenllaw i sicrhau bod ysgolion yn cael eu harwain gan y cyngor arbenigol gorau.”

‘Y potensial i drawsnewid addysg’

“Rydym yn falch iawn o lansio’r broses bwysig hon i gasglu barn gan weithwyr addysg proffesiynol i ddeall yn well sut mae athrawon a disgyblion eisoes yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru,” meddai Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn.

“Mae gan Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol y potensial i drawsnewid addysg os caiff ei ddefnyddio’n gyfrifol ac mae ei ddefnydd ymhlith addysgwyr a dysgwyr yn cynnyddu ar raddfa gyflym iawn.

“Bydd cael dealltwriaeth gliriach o integreiddio Deallusrwydd Artiffisial mewn ysgolion ar lefel genedlaethol yn galluogi’r Llywodraeth i gefnogi ac arwain y gymuned addysg yn well wrth ddefnyddio’r dechnoleg bwerus hon.

“Rydym yn annog arweinwyr ysgolion, athrawon a staff cymorth i rannu eu profiadau ac ymgysylltu â’r arolwg sydd bellach yn fyw.

“Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â darparwyr dros y misoedd nesaf i siarad yn fanylach am eu gwaith o ran defnyddio Deallusrwydd Cynhyrchiol yn eu lleoliadau.

“Mae Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn cyflwyno cyfleoedd go iawn i drawsnewid y sector addysg a phrofiad dysgwyr ac addysgwyr”.

Ochr yn ochr â’r adolygiad, mae is-grŵp Deallusrwydd Artiffisial o Ddysgu Digidol Cymru wedi’i sefydlu i sicrhau mewnbwn gan y sector ac mae rhwydwaith o arbenigwyr o bob rhan o’r sector addysg, diwydiant a’r trydydd sector yn helpu i drafod y cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm â Deallusrwydd Artiffisial.