Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn ateb cwestiynau yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Medi 22), cyn annerch y genedl heno am 8.05yh.

Mae disgwyl iddo nodi pa fesurau pellach fydd yn cael eu gweithredu yng Nghymru yn ddiweddarach heddiw, cyn wynebu’r cwestiynau gan y wasg mewn cynhadledd yfory (dydd Mercher, Medi 23).

Daw hyn ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gynnal cyfarfod o bwyllgor Cobra gydag arweinwyr y gwledydd datganoledig heddiw a chyhoeddi mesurau newydd yn Lloegr.

Cwestiynau i Mark Drakeford yn y cyfarfod llawn

Yn ystod y cyfarfod llawn, roedd rhai Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Pwysleisiodd y prif weinidog fod Cymru “yn dechrau o le gwahanol” i Loegr gan fod nifer o’r newidiadau a gafodd eu cyhoeddi yn Lloegr eisoes ar waith yng Nghymru.

Eglurodd y byddai’n darparu mwy o wybodaeth yn yr anerchiad heno a’r gynhadledd yfory.

Llety dros dro i ffoaduriaid yn Sir Benfro

Roedd y cwestiwn cyntaf gan Angela Burns, AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ymwneud â’r dewis i roi llety dros dro i ffoaduriaid yn hen wersyll milwrol Penalun ger Dinbych-y-pysgod.

Yr wythnos ddiwethaf, fe ddaeth i’r amlwg fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cynnal hyd at 250 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar y safle.

Eglurodd Angela Burns ei bod hi’n pryderu nad yw gorllewin Cymru yn addas i dderbyn ceiswyr lloches.

Roedd gwrthwynebiad hefyd i’r cynlluniau gan Neil Hamilton o grŵp UKIP, a gyhuddodd y Llywodraeth o fod yn “anghyfrifol” am adael i’r cynlluniau fynd yn eu blaen.

Eglurodd y prif weinidog mai cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref, nid Llywodraeth Cymru, yw hyn.

Dim bwriad o frechu gorfodol

Fe wnaeth Mark Reckless, arweinydd grŵp Brexit, ladd ar yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething, a ddywedodd mewn cyfweliad ag ITV Cymru na fyddai’n gwrthod y syniad o gyflwyno cynllun brechu gorfodol yng Nghymru.

Wrth ymateb, dywedodd y prif weinidog nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i orfodi brechlyn Covid ar neb.

Herio’r prif weinidog cyn etholiad 2021

Yn dilyn pôl piniwn diweddar, oedd yn awgrymu y gallai’r Blaid Lafur golli seddi yn etholiad 2021, heriodd Suzy Davies y prif weinidog ar ran y Ceidwadwyr Cymreig ynghylch hyn.

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford fod rhaid i bob plaid “ennill ac adennill ymddiriedaeth”.