Cyrhaeddodd cryn dipyn o ffoaduriaid lannau gwledydd Prydain ar gychod bychain ddoe (Medi 22).

Manteisiodd nifer o bobol ar dawelwch y Sianel, gyda channoedd yn cael eu hatal wrth iddynt hwylio tuag at Brydain.

Mae’n debyg fod mwy na 300 o ffoaduriaid wedi gwneud y siwrne, ond nid yw’r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau’r niferoedd eto.

Erbyn hyn mae addewid Priti Patel i wneud y daith yn “anymarferol” yn “deilchion,” meddai un elusen.

Manylion

Hyd yn oed gydag adnoddau ychwanegol wedi eu hanfon i Gulfor Dover, roedd Llu’r Ffiniau wrthi am 13 awr yn ymdopi â chychod yn cyrraedd.

Gwelwyd dwsinau o ffoaduriaid yn cyrraedd harbwr Dover wedi eu lapio mewn blancedi, gyda phlant yn eu plith.

Roedd pump o gychod Llu’r Ffiniau ar y môr: cychod Seeker a Searcher, a chychod patrôl Hunter, Speedwell a’r Eagle.

Ynghyd â chychod Llu’r Ffiniau, roedd cwch heddlu, hofrennydd gwylwyr y glannau a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub yn cynorthwyo ar hyd 65 milltir o’r arfordir.

Yn Ffrainc, cafodd 88 o bobol eu hachub wrth drio croesi i Dover.

Addewidion Priti Patel yn “deilchion”

Daw’r cynnydd diweddar mewn niferoedd yn croesi’r sianel er gwaethaf addewidion Priti Patel i wneud y daith yn un “anymarferol.”

Dywedodd Bella Sankey, Cyfarwyddwr elusen ddyngarol Detention Action: “Mae honiadau Priti Patel am wneud y daith yn un anymarferol bellach yn deilchion gan fod y mis yma wedi bod yn brysurach nag erioed.

Angen ffordd ddiogel

“Nid yw’r sefyllfa beryglus hon yn gynaliadwy, ond mi fydd ffoaduriaid sydd mewn sefyllfa anobeithiol yn parhau i beryglu eu bywydau cyn belled â bod Llywodraeth Prydain yn gwrthod cynnig ffordd ddiogel i bobol sy’n dianc rhag erledigaeth gyrraedd Prydain,” meddai Bella Sankey.

“Oni bai bod yr Ysgrifennydd Cartref yn newid ei thactegau, fydd yr Ysgrifennydd Cartref ddim yn edrych yn galed nac yn dosturiol – fydd hi’n plesio neb.”