Mae Llywodraeth Prydain wedi’i chyhuddo o “adael y gymuned draws i lawr” drwy beidio â newid y Ddeddf Cydnabod Rhywedd.

Dywedodd Liz Truss, Ysgrifennydd Merched a Chyfartaledd Llywodraeth Prydain, nad diwygio Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 oedd “blaenoriaeth bennaf” pobol draws.

Mewn ymateb dywedodd Dan Carden, Aelod Seneddol Walton, nad yw ei sylwadau yn mynd yn “ddigon pell i sicrhau hawliau pobol draws yng ngwledydd Prydain.”

Cynlluniau ar gyfer diwygio Deddf Cydnabod Rhywedd 2004

Byddai’r newidiadau yn ei gwneud yn haws i bobol draws yng Nghymru a Lloegr gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o’u rhywedd.

Mae’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd ar hyn o bryd yn gorfodi pobol draws i gwblhau proses hir er mwyn newid eu tystysgrifau geni.

Mewn datganiad, cyhoeddodd Liz Truss fod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod galwadau i ganiatáu i bobol gydnabod eu rhywedd eu hunain a newid eu tystysgrifau geni heb ddiagnosis meddygol.

Cyhuddo Llywodraeth Prydain o “adael y gymuned draws i lawr”

Cyhuddodd Dirprwy Ysgrifennydd Merched a Chyfartaledd, Marsha de Cordova, Lywodraeth Prydain o “adael y gymuned draws i lawr” drwy beidio â gwneud newidiadau i’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd i leihau’r amseroedd aros ar gyfer newid tystygrifau geni.

“Mae Llywodraeth Prydain wedi llwyddo i leihau’r rhestr aros erbyn 2022, ond mae 10,000 o bobol draws yn parhau i fod ar y rhestr.

“Oes posib i’r gweinidog esbonio’r camau mae Llywodraeth Prydain yn eu cymryd i leihau’r amser aros, a sicrhau bod pobol draws yn cael mynediad at ofal iechyd o fewn yr amser cyfreithiol?” gofynnodd Marsha de Cordova.

“Mae (Ms Cordova) yn iawn mai lleihau’r rhestr aros yw ein blaenoriaeth, a sicrhau fod pobol draws yn cael gofal iechyd haeddiannol,” meddai Liz Truss.

Ychwanegodd fod yr adran yn “gweithio yn agos iawn â’r Gweinidog Iechyd a’r GIG er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hynny mewn lle.”