Bydd angen trwyddedau ar yrwyr lorïau i gael mynediad i Gaint neu byddant yn wynebu camau gweithredu gan yr heddlu mewn ymgais i osgoi tagfeydd ar ôl Brexit, meddai’r Llywodraeth.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Michael Gove, fod gwaith yn mynd rhagddo i osgoi ciwiau o 7,000 o lorïau yn y sir ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit fis Rhagfyr.
Dywedodd y cyn-weinidog Ceidwadol, Damian Green, y byddai posibilrwydd o’r fath yn “codi ofn” ar ei etholwyr yn Ashford a gofynnodd am sicrwydd y bydd system ar waith i helpu traffig i lifo’n esmwyth.
Trwydded Mynediad i Gaint
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, ymatebodd Mr Gove: “Mae’r system honno wedi’i datblygu, mae’n cael ei rhannu â busnes ac rydym am sicrhau bod pobl yn defnyddio proses gymharol syml er mwyn cael yr hyn a elwir yn ‘Drwydded Mynediad i Gaint’, sy’n golygu y gallant fynd yn eu blaenau’n esmwyth drwy Gaint oherwydd bod ganddynt y deunydd sydd ei angen.
“Os nad oes ganddynt y deunydd sydd ei angen yna yn wir, drwy blismona, a chamerâu ANPR [camerâu adnabod rhifau cerbydau] a dulliau eraill… byddwn yn gwneud ein gorau glas i osgoi anghyfleustra i’w etholwyr.”
Dywedodd Mr Green: “Bydd y posibilrwydd o 7,000 o lorïau yn ciwio i groesi’r Sianel yn codi ofn ar fy etholwyr oherwydd ein bod yn gwybod pa effaith y mae hynny’n ei chael ar yr holl ffyrdd yng Nghaint… ac mae’n drychinebus.”
Ychwanegodd: “A allaf ofyn am baratoadau’r Llywodraeth ei hun ac yn benodol y system cludo nwyddau, a grybwyllodd [Michael Gove], sy’n hanfodol ar gyfer traffig esmwyth ar draws y Sianel?
“A all roi sicrwydd y bydd y system honno’n gwbl weithredol o fis Ionawr?”
Ciw o San Steffan i Dover
Dywedodd Kevin Brennan, cyn-weinidog Llafur, wrth Dŷ’r Cyffredin hefyd: “Byddai 7,000 o gerbydau nwyddau trwm wedi’u parcio un ar ôl y llall yn ymestyn o’r adeilad hwn i Dover. Dyna faint y broblem…
“Ble fydd y 29 parc lorïau ychwanegol? Mae’n ymddangos bod ei ddatganiad yn ymwneud â throsglwyddo’r bai ar fusnes am yr anhrefn sy’n cael ei achosi gan ei Lywodraeth.”
Wfftio hyn wnaeth Mr Gove a thynnu sylw at safleoedd yng Nghaint ac mewn lleoliadau eraill lle mae arian wedi’i fuddsoddi, gan nodi hefyd: “Pe bai ardaloedd penodol o reoli traffig yng Nghaint y bydd angen i ni ddelio â hwy, mae camau wedi’u cymryd gyda Fforwm Cydnerthedd Caint i wneud hynny.”
Amser yn brin i sicrhau cytundeb masnach
Yn y cyfamser, mae Downing Street wedi cyfaddef bod amser yn brin i gyrraedd cytundeb masnach a allai fod ar waith erbyn 1 Ionawr.
Roedd Michel Barnier, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, yn ymweld â Llundain am drafodaethau anffurfiol ddydd Mercher (23 Medi) cyn y rownd nesaf o drafodaethau yr wythnos nesaf.
Dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog Prydain: “Rydym yn dal i gredu ei bod yn bosibl taro bargen ond mae angen i ni wneud cynnydd gan fod amser yn amlwg yn dod i ben.”
Pan ofynnwyd iddo a ellid cael rhagor o drafodaethau ffurfiol ddechrau mis Hydref, dywedodd y llefarydd: “Gadewch i ni weld sut mae’r trafodaethau’n mynd.
“Mae cyfarfod Cyngor yr Undeb Ewropeaidd i fod i gael ei gynnal ganol mis Hydref.
“Rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n bosibl dod i gytundeb ac rydyn ni wedi ymrwymo i weithio’n galed i sicrhau hynny.”