Mae un o fawrion Fleet Street, Syr Harold Evans, wedi marw yn Efrog Newydd yn 92 oed.

Roedd cyn-olygydd The Sunday Times a golygydd asiantaeth newyddion Reuters wedi marw yn sgil problemau gyda’i galon, meddai ei wraig Tina Brown.

Cafodd Syr Harold Evans ei eni ym Manceinion yn 1928, i rieni o Gymru, a dechreuodd ei yrfa gyda phapur wythnosol yn Ashton-under-Lyne pan oedd yn 16 oed.

Yn ystod ei yrfa yn y diwydiant papurau newydd daeth yn ddirprwy olygydd y Manchester Evening News a golygydd The Northern Echo yn Darlington.

Ar ddiwedd y 1960au daeth yn olygydd The Sunday Times, ac yna golygydd The Times yn fuan ar ôl i Rupert Murdoch brynu’r papur yn 1981.

Fe adawodd ei swydd flwyddyn yn ddiweddarach ar ôl gwrthdaro gyda Rupert Murdoch ynglŷn a rhyddid golygyddol.

Roedd e’n credu’n gryf mewn newyddiaduraeth ymchwiliol a chywirdeb.

Ymgyrch Thalidomide

Roedd Syr Harold Evans yn fwyaf adnabyddus am ddatgelu’r sgandal thalidomide a rhoi sylw i gannoedd o blant ym Mhrydain oedd wedi’u heffeithio gan y cyffur ac heb dderbyn unrhyw iawndal am hynny.

Bu’n briod a Tina Brown am bron i 40 mlynedd, ac fe symudodd y cwpl i’r Unol Daleithiau ychydig flynyddoedd ar ôl iddo adael The Times.

Roedd Syr Harold Evans hefyd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gan gynnwys The American Century yn 1998 a They Made America yn 2004.

Mae teyrngedau wedi’u rhoi gan nifer o newyddiadurwyr a gwleidyddion sy’n ei ddisgrifio fel “ysbrydoliaeth”.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant Oliver Dowden y dylai ei farwolaeth “ein hatgoffa o rôl hanfodol y wasg rydd yn ein democratiaeth.”