Mae John Walter Jones, prif weithredwr cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg, wedi marw yn 74 oed.
Yn enedigol o ardal Moelfre, Ynys Môn, cafodd ei addysg yn Ysgol Friars ym Mangor, cyn mynd ymlaen i astudio economeg yn Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru.
Roedd yn was sifil yn y Swyddfa Gymreig rhwng 1971 ac 1988.
Yn 1981 roedd yn gyfrifol am sefydlu cyfundrefn gyntaf y Llywodraeth ar gyfer rhoi grantiau i gefnogi’r iaith Gymraeg, ac 1988 fe’i secondiwyd i sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg anstatudol ac fe helpodd i lunio Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1993.
Bu hefyd yn gadeirydd S4C rhwng 2006 a 2010, ac yn fwy diweddar rhwng 2014 a 2018 bu’n cyflwyno rhaglen amser cinio ar BBC Radio Cymru.
“Angerddol”
Dywedodd Rhodri Williams, oedd yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg pan oedd John Walter Jones yn Brif Weithredwr:
“Roedd John yn angerddol dros Gymru a’r Gymraeg, yr un mor angerddol ag unrhyw ymgyrchydd iaith. Roedd ei gyfraniad at lunio deddfwriaeth yn y 90au cynnar yn allweddol, er enghraifft Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
“Roedd yn gyfrifol am osod Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar ei draed ac am sicrhau ei fod yn sefyll ochr wrth ochr a chyrff eraill oedd yn delio a meysydd polisi cyhoeddus.”
“Neb clyfrach na John Walter”
Yn talu teyrnged ar raglen Dros Ginio Radio Cymru, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas am ei gyfaill:
“Dyna gyfraniad mawr John – crëwr sefydliadau, cynhaliwr sefydliadau, a dyna sydd mwya’ o’i angen ar Gymru oherwydd allwch chi ddim bod yn wlad gymharol fach wrth ymyl gwladwriaeth fawr fel un y Deyrnas Unedig os nad ’da chi’n gallu chwarae’r gêm yna’n glyfrach na nhw. A doedd yna neb clyfrach na John Walter.”
Mae’n gadael ei wraig, Gaynor. Roedd ganddyn nhw ferch, Beca, a fu farw yn 2010.