Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi cynllun newydd a fydd yn cymryd lle’r cynllun saib swyddi neu ffyrlo.

Bydd pob busnes bach a chanolig yn gymwys i fod yn rhan o’r ‘Cynllun Cefnogi Swyddi’ ond bydd yn rhaid i fusnesau mwy o faint brofi bod eu helw wedi cael ei effeithio gan yr argyfwng.

Camau eraill

  • Bydd y gostyngiad cyfradd ‘treth ar werth’ (VAT) o 20% i 5% am y sectorau croeso a thwristiaeth yn cael eu hymestyn am ddau fis arall (Mawrth 31 yw’r dyddiad terfyn newydd)
  • Bydd yna elfen “talu wrth dyfu” i’r “benthyciadau bownsio ‘nôl” i fusnesau, sy’n golygu bod gan fusnesau 10 mlynedd i dalu’r benthyciadau yn ôl – yn hytrach na chwech
  • Bydd y rheiny sydd “mewn trybini go iawn” wrth dalu “benthyciadau bownsio ‘nôl” yn ôl yn medru gohirio ad-daliadau am hyd at chwe mis
  • Bydd yr amser terfyn ar gyfer ‘Benthyciad Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws’ yn cael ei bwsio ymlaen i ddyddiad hwyrach – Dachwedd 30

Adferiad economaidd “bregus”

Yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma (Dydd Iau, Medi 24) dywedodd y Canghellor, Rishi Sunak, bod y cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn peri bygythiad i adferiad economaidd “bregus” y Deyrnas Unedig.

Fe gyhoeddodd ei ‘gynllun ar gyfer yr economi dros y gaeaf’ ac un o brif gyhoeddiadau’r anerchiad oedd y ‘Cynllun Cefnogi Swyddi’. Y nod meddai, yw diogelu swyddi mewn busnesau a fydd yn gweld llai o alw dros fisoedd y gaeaf yn sgil Covid-19.

Bydd y Cynllun yn para am chwe mis, gan ddechrau ar Dachwedd 1, a bydd yn rhaid i weithwyr weithio o leia’ 33% o’u horiau gwaith i fod yn gymwys.

Roedd y cynllun ffyrlo – a fydd yn dod i ben ar Hydref 31 – yn talu 80% o gyflog gweithwyr, ac yn rhoi help llaw i fusnesau nad oedd yn medru fforddio cadw’i fynd fel arall.

Rhannu cyfrifoldeb

Wrth annerch Aelodau Seneddol, dywedodd Rishi Sunak bod “mesurau heddiw yn esblygiad pwysig yn ein ffordd o weithredu”.

“Ni ellir gohirio ein bywydau mwyach,” meddai. “Ers mis Mai rydym wedi cymryd camau i ryddhau ein heconomi a’n cymdeithas.

“Fe wnaethom y pethau hynny oherwydd bod mwy i fywyd na jest bodoli. Mae ein ffrindiau a’n teulu, a’n gwaith a’n cymuned, oll yn rhoi gobaith ac ystyr i’n bywydau.

“Mewn gwirionedd nid y Llywodraeth yn unig sy’n gyfrifol am drechu coronaferiws,” meddai wedyn.“Rydym ni gyd yn rhannu’r cyfrifoldeb gan fod pawb yn talu’r gost.”

Croeso gan fyd busnes

Mae Ian Price, Cyfarwyddwr CBI (Conffederasiwn Diwydiant Prydain) Cymru, wedi croesawu’r mesurau a gyhoeddwyd.

“Dyma gamau beiddgar gan y Trysorlys a fydd yn achub cannoedd o filoedd o swyddi dros y gaeaf hwn,” meddai.

“Mae’n iawn i ni gyfeirio’n cymorth at swyddi sydd â dyfodol, ond sydd ond yn gallu bod yn rhan amser pan mae’r galw yn isel.

“Dyma sut allwn gynnal sgiliau a swyddi a sicrhau y bydd pethau’n cael eu hadfer yn gyflym ar ben arall yr argyfwng.”

‘Tyllau’

Mae AS Ceredigion wedi tynnu sylw at wendidau’r cynllun.

Ben Lake
Ben Lake

Dywedodd Ben Lake AS fod bron i 30% fod 1.6 miliwn o weithwyr hunangyflogedig yn y DU wedi’u heithrio o gymorth y llywodraeth – pobl sydd newydd fynd yn hunangyflogedig; pobl sy’n ennill llai na 50% o’u hincwm o hunangyflogaeth; a phobl oedd yn ennill dros £50,000 mewn elw masnachu cyn y pandemig.

Dywedodd Ben Lake: “Ni fydd cyhoeddiad y Canghellor heddiw yn rhoi unrhyw gysur i’r 1.6 miliwn o weithwyr hunangyflogedig ar draws y DU sydd heb dderbyn ceiniog o gefnogaeth ers dechrau’r pandemig”.

“Mae’r Canghellor wedi bod yn ymwybodol o’r tyllau yn ei gynlluniau cymorth ers misoedd, ac eto yn anffodus mae wedi gwrthod mynd i’r afael â’r tyllau hynny yn ei ddatganiad heddiw.

“Cyn yr hyn sy’n debygol o fod yn aeaf heriol i weithwyr hunangyflogedig, yn enwedig y rhai mewn ardaloedd gwledig, rwy’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i unioni’r sefyllfa hon ar frys.”