Mae Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru wedi dweud bod hi’n ‘annhebygol’ bydd Eisteddfod yr Urdd yn gallu cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.

Wrth gyflwyno tystiolaeth i bwyllgor o Aelodau’r Senedd eglurodd Sian Lewis nad oedd hi chwaith yn rhagweld gwersylloedd y mudiad yn ailagor yn llawn am y flwyddyn academaidd gyfan.

“Ma’r Eisteddfod a chwaraeon cenedlaethol yn rhagweld, i fod yn gwbl realistig o’r negeseuon rydym yn eu clywed drwy gyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru, [nad yw] yn debygol o ddigwydd flwyddyn nesaf oherwydd y canllawiau ymbellhau cymdeithasol”, meddai.

Roedd Sian Lewis yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd am effaith y pandemig ar yr iaith Gymraeg.

Cafodd holl wasanaethau’r Urdd eu cau ar Fawrth 20, gan gynnwys y tri gwersyll a holl weithgareddau adran y maes a chwaraeon ynghyd â gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych.

Os bydd cyfyngiadau’r coronafeirws yn caniatáu, y bwriad yw cynnal Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych ym mis Mai 2021.

Gwersylloedd yr Urdd 

Cyfeiriodd Sian Lewis at waharddiad yn yr Alban sy’n atal ysgolion rhag cynnal ymweliadau dros nos yn ystod y flwyddyn academaidd yma.

“Pe bai Llywodraeth Cymru yn dilyn yr un patrwm byddai’n golygu na fydd unrhyw ysgol yn gallu ymweld â’n gwersylloedd ni am y flwyddyn i ddod”, meddai.

“Byddai hyn yn cael effaith enfawr ar yr incwm rydym yn ei greu.”

Mae canllawiau presennol Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gwahardd ysgolion rhag cynnal ymweliadau dros nos tan fis Ionawr.

Mae’r Gwersylloedd yn wynebu gostyngiad incwm misol o £500,000 oherwydd y coronafeirws.

Daeth i’r amlwg fis diwethaf fod mwy o swyddi Urdd Gobaith Cymru yn y fantol na’r disgwyl, gydag un safle yn wynebu colli dros 70% o’u gweithlu.