Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar Gyngor Môn a Chyngor Gwynedd i adolygu cynllun i adeiladu miloedd o dai ar gyfer gweithwyr atomfa’r Wylfa Newydd ar frys – a hynny wedi i gwmni Hitachi gadarnhau nad ydyn nhw am fwrw ymlaen gyda’r cynllun niwclear.
Fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd mae’r cynghorau yn bwriadu adeiladu 7,184 o gartrefi newydd yn yr ardal hyd at 2026.
“Does dim cyfiawnhad dros barhau gyda fframwaith sydd nid yn unig yn gwbl anghynaladwy, ond sy’n bygwth y Gymraeg fel cyfrwng cymdeithasol yn ogystal”, meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith wrth golwg360.
‘Targedau cwbl anaddas’
“O’r cychwyn, roddem yn grediniol bod Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn yn gosod targedau cwbl anaddas o safbwynt adeiladu tai newydd, ac mae hyn sicr yn wir bellach”, meddai.
“Mae tai yn yr ardaloedd yma ymhell tu hwnt i afael pobol leol, mae yna dai yn cael eu hadeiladu er mwyn bod yn dai haf, ond beth sydd ei angen yn yr ardaloedd yma yw tai fforddiadwy a chymdeithasol.
“Yn ogystal â pheidio adeiladu’r Wylfa newydd, yn sgil Covid-19 mae yna dystiolaeth fod yna fwy a fwy o bobol o ganol dinasoedd yn Lloegr yn edrych i symud i ardaloedd gwledig.”
“Galwn ar y ddau Gyngor i adolygu’r Cynllun Datblygu ar fyrder, gan roi blaenoriaeth i anghenion economaidd ac ieithyddol lleol, a gosod pwyslais ar ynni cynaliadwy a chefnogi busnesau lleol.”
Ymateb Cyngor Môn a Chyngor Gwynedd
“Bydd gwaith adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn cychwyn flwyddyn nesaf”, meddai llefarydd ar ran Cyngor Môn a Chyngor Gwynedd.
“Bydd angen ystyried y sail dystiolaeth a gesglir yn flynyddol wrth fonitro’r cynllun ynghyd ag unrhyw newid cyd-destunol arall o berthnasedd, fel, er enghraifft y sefyllfa gyda Wylfa Newydd.”