Mae’r ap olrhain cyswllt newydd yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn destun cwynion gan rai defnyddwyr gan nad ydynt yn gallu ei lawrlwytho, a hynny oherwydd oedran eu ffôn symudol.

Aeth defnyddwyr ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Iau i fynegi eu rhwystredigaeth am fethu â defnyddio’r ap.

Mae ap Covid-19 y GIG yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr Apple iPhone redeg fersiwn iOS 13.5 o feddalwedd y cwmni, a ryddhawyd y llynedd ond sydd ar gael i ddyfeisiau sawl blwyddyn yn hŷn, tra bod defnyddwyr Android Google angen fersiwn 6.0, a gyflwynwyd yn 2015.

Pam?

Mae hyn oherwydd mai dim ond fersiynau diweddarach o feddalwedd ffonau clyfar sydd â’r dechnoleg sydd ei angen i bweru’r ap, gan gynnwys y ffordd y defnyddir Bluetooth i olrhain cyswllt.

Yn ôl ffigurau Apple, mae 92% o’r holl ddyfeisiau iPhone y mae wedi’u cyflwyno yn y pedair blynedd diwethaf yn fyd-eang yn rhedeg iOS 13 neu ddiweddarach – sy’n golygu y byddant yn gallu lawrlwytho’r ap.

Mae iPhone sy’n rhedeg iOS 13 yn gallu uwchraddio i’r fersiwn 13.5 – sef y fersiwn sydd ei angen i gael mynediad i’r ap.

Fodd bynnag, nid yw iOS 13.5 ar gael ar yr iPhone 6 a 6 Plus – dyfeisiau a ryddhawyd gyntaf yn 2014 – nac unrhyw setiau llaw iPhone cynharach.

Nid yw nifer o ffonau clyfar Huawei a ryddhawyd yn ddiweddar, gan gynnwys y gyfres Mate 30 a’r gyfres P40, yn gallu lawrlwytho’r ap ar hyn o bryd ychwaith, a hynny gan nad oes gan y dyfeisiau hynny fynediad i siop apiau Google.

Adeiladwyd yr ap ar fframwaith a ddatblygwyd gan y cewri technoleg, Apple a Google.

Ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock ddydd Iau (24 Medi) fod gan y “mwyafrif helaeth” o bobl y feddalwedd gywir, gan ychwanegu y gallai fod angen i rai uwchraddio system weithredu eu ffôn er mwyn cael mynediad i’r ap.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi dweud y dylai unrhyw un nad yw’n gallu defnyddio’r ap barhau i ddefnyddio gwasanaethau olrhain cyswllt traddodiadol a ddarperir yng Nghymru gan GIG Cymru.