Mae eisiau sicrhau mwy o chwarae teg i feirdd benywaidd Cymru a “herio” beth yw’r diffiniad cydnabyddedig o “safon” mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Dyna’r gri gan ddau fardd ifanc sydd wedi golygu cyfrol newydd sy’n cynnwys 100 o gerddi gan wahanol feirdd cyfoes.

Grug Muse ac Iestyn Tyne sy’n gyfrifol am y flodeugerdd newydd, Dweud y drefn pan nad oes trefn.