Allwch chi ddim osgoi trafod pynciau mawr y dydd gyda phlant, hyd yn oed y rhai lleiaf, pan rydach chi yn Fardd Plant Cymru.

Dyna farn Caryl Parry Jones a oedd yn gwneud y swydd – a fydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed y mis nesaf – rhwng 2007 a 2008.

Yn ôl y gantores boblogaidd, mae’r byd wedi newid yn sylweddol ers iddi hi fod yn y swydd a byddai’n rhaid “agor y drafodaeth” wleidyddol gyda’r plant.