Os na fydd Llafur yn ennill mwyafrif yn etholiad y Senedd flwyddyn nesa’, dylai Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr ffurfio clymblaid er mwyn llywodraethu Cymru.

Dyna mae David Melding, Aelod Ceidwadol o’r Senedd, wedi ei ddweud yn sgil cyhoeddiad arolwg barn go ddiddorol.

Mae’r Welsh Barometer Poll diweddaraf yn darogan y bydd Llafur yn brif blaid yng Nghymru gyda 25 sedd, ond byddai chwech yn brin o’r 31 o seddi sydd eu hangen i fod â mwyafrif.