Fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r sector bwyd a diod, a chryfhau parterniaethau Ewropeaidd, mae astudiaeth beilot ryngwladol yn mynd yn ei blaen i ddatblygu cysylltiadau â Llydaw.
Bydd yr astudiaeth beilot yn golygu fod partneriaid Cymreig yn paru â busnesau a sefydliadau tebyg er mwyn archwilio’r posibilrwydd o gydweithredu ar brosiectau fydd o fudd i’r ddwy ochr.
Bwriad y cynllun yw cynyddu gwydnwch y diwydiant yng Nghymru ar ôl Brexit, drwy gynyddu cefnogaeth gan rwydwaith ehangach o arbenigwyr.
Partneriaeth â Llydaw
Mae’n fwriad i’r cynllun gefnogi ymdrechion i ddatblygu a chryfhau partneriaethau Ewropeaidd sy’n hanfodol i sector bwyd a diod Cymru, a hynny drwy baru â Llydaw.
Mae gan Lywodraeth Cymru Femorandwm Dealltwriaeth gyda Llydaw yn barod, felly mae’r cynllun yn adeiladu ar berthynas sydd eisoes mewn lle.
Yn Llydaw mae nifer o fusnesau arloesol yn datblygu datrysiadau cynaliadwy, megis drwy’r diwydiant gwymon ac algae.
Drwy ddefnyddio arbenigedd Llydaw, mae’r cynllun yn canolbwyntio ar ecsbloetio algae ar gyfer maeth, iechyd, datgarboneiddio, pacio nwyddau, cael gwared ar nitrogen, ffosffad a llygredd, ac fel bwyd i anifeiliaid.
Ymysg y cyfranogwyr o Gymru mae ymchwilwyr, cynhyrchwyr bwyd, cwmnïau dyfeisgar, cynrychiolwyr y llywodraeth ac arweinwyr rhwydweithiau clwstwr.
Yn sgil Covid-19 bu rhaid gohirio’r cynlluniau i ymweld â Llydaw, ond mae astudiaeth ddigidol wedi cael ei threfnu.
“Balch iawn” bod partneriaeth yn datblygu
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru: “Rwyf yn falch iawn gweld fod busnesau bwyd Cymreig yn paratoi i ymuno gyda’u cyfatebwyr yn Llydaw wrth i ni barhau i ddatblygu partneriaethau Ewropeaidd holl bwysig, er gwaethaf Covid-19.
“Wrth gwrs, ni allwn deithio ar hyn o bryd, ond mae’n dda nodi fod y gwaith i ddatblygu’r perthnasau rhyngwladol yn mynd yn ei flaen drwy ymweliadau digidol, ac rwy’n siŵr y bydd y ddwy ochr yn dysgu gan ei gilydd.
“Mae’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn cael ei adnabod am ei ddyfeisgarwch a’i wydnwch, ac mae’r rhain yn nodweddion gynyddol bwysig wrth i ni adfer ar ôl Covid-19, a pharhau gyda’r cysylltiadau pwysig hyn,” mynnodd.