Mae ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod Conwy, Sir y Fflint a Sir Ddinbych ymhlith yr ardaloedd sydd â’r nifer uchaf o achosion o’r coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Cofnodwyd mwy o achosion yno ar gyfer pob 100,000 o’r boblogaeth yn ystod yr wythnos ddiwethaf na Chastell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg a fydd yn wynebu cyfyngiadau lleol o 6 o’r gloch heno.

Golygai’r cyfyngiadau diweddaraf y bydd 1.8 miliwn o boblogaeth Cymru yn cael eu heffeithio.

Mae achosion hefyd ar gynnydd ym mhob un ond dwy Sir yng Nghymru.

Fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod 286 o achosion pellach o Covid-19 wedi’u cofnodi yng Nghymru, gan ddod a chyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau  yn y wlad i 23,231. Dywedodd ICC nad oedd unrhyw farwolaethau pellach wedi eu cofnodi, gyda chyfanswm nifer y marwolaeth yn parhau yn 1,612.

‘Darlun cymysg yn y gogledd’

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyfarfod ag arbenigwyr iechyd ac arweinwyr y cynghorau sir yn y gogledd heddiw (Medi 28).

Eglurodd y Prif Weinidog cyn y cyfarfod fod “darlun cymysg” yn y gogledd, lle nad oes cyfyngiadau lleol wedi eu cyflwyno eto.

“Os oes angen i ni weithredu, fe wnawn ni”, meddai Mark Drakeford.

“Dyw’r sefyllfa ddim mor glir yno a beth yw hi yn y de ac rwyf am wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar y sefyllfa yn fanwl.”

Sut mae gwahanol siroedd yn cymharu?

Mae pob sir heblaw am Gaerffili a Phen-y-bont ar Ogwr wedi gweld cynnydd mewn achosion.

Er mai Sir Benfro sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf o 693.75%, mae nifer yr achosion i bob 100,000 yn parhau yn isel yno, 12.7.

Mae’r tabl isod yn dangos nifer yr achosion positif ar gyfer pob 100,000 o’r boblogaeth, nifer yr achosion newydd yn ystod yr wythnos diwethaf, a’r cynnydd mewn achosion i gymharu â’r wythnos flaenorol – mae’r ardaloedd sydd mewn bold eisoes dan gyfyngiadau lleol.

Achosion i bob 100,000
o’r boblogaeth
Nifer yr achosion newydd Cymharu â’r wythnos flaenorol
Blaenau Gwent 287.7 201 570.63%
Merthyr Tydful 225.4 136 94.50%
Rhondda Cynon Taf 171.6 414 90.88%
Pen-y-Bont ar Oogwr 108.1 159 -60.82%
Abertawe 93.1 230 435.06%
Sir Gaerfyrddin* 66.7 126 200.45%
Caerdydd 60.2 221 245.98%
Casnewydd 50.4 78 11.26%
Caerffili 48.6 88 -23.46%
Torfaen 47.9 45 398.96%
Conwy 41 48 109.18%
Sir y Fflint 39.1 61 134.13%
Sir Ddinbych 38.7 37 131.74%
Castell-nedd Port Talbot 37 53 380.52%
Bro Morgannwg 34.3 46 142.50%
Wrecsam 25 34 237.84%
Sir Fôn 22.8 16 45.22%
Powys 12.8 17 141.51%
Sir Benfro 12.7 16 693.75%
Sir Fynwy 10.6 10 68.25%
Gwynedd 10.4 13 116.67%
Ceredigion 6.9 5 392.86

Nifer cyfartalog yr achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf yw 65.3.

*Tref Llanelli yw’r unig ardal yn Sir Gaerfyrddin sydd dan gyfyngiadau lleol

Data ar gyfer wythnos Medi 18-24 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.