Bydd tair sir yn rhagor yn wynebu cyfyngiadau pellach heddiw (Dydd Llun, Medi 28) oherwydd pryderon am y cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.
Bydd y cyfyngiadau’n dod i rym yno am 6 o’r gloch heno.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno cyfyngiadau tebyg yng Nghaerdydd, Abertawe a Llanelli dros y penwythnos.
Golyga hyn y bydd bron i 1.8 miliwn o boblogaeth Cymru yn cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau.
Rhybuddiodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau pellach.
“Rydym yn gwneud hyn er mwyn osgoi niwed sylweddol ac os na fydd pobol â’r un disgyblaeth a welom yn ystod y cloi dros yr haf yna bydd yn rhaid i ni ystyried cymryd mesurau pellach”, meddai.
‘Darlun cymysg yn y gogledd’
Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyfarfod ag arbenigwyr iechyd ac arweinwyr y cynghorau sir yn y gogledd wythnos yma.
Eglurodd y Prif Weinidog fod “darlun cymysg” yn y gogledd, lle nad oes cyfyngiadau lleol wedi eu cyflwyno eto.
“Os oes angen i ni weithredu, fe wnawn ni”, meddai Mark Drakeford.
“Dyw’r sefyllfa ddim mor glir yno a beth yw hi yn y de ac rwyf am wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar y sefyllfa yn fanwl.”
Mae ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod nifer yr achosion yn y gogledd lawer yn is nag yn y de, ond bod y coronafeirws ar gynnydd yn Sir y Fflint, Conwy a Dinbych.
Ardaloedd sydd dan gyfyngiadau lleol
- Caerffili – ers Medi 8
- Rhondda Cynnon Taf – ers Medi 17
- Merthyr Tudful – ers Medi 22
- Pen-y-bont ar Ogwr – ers Medi 22
- Blaenau Gwent – ers Medi 22
- Casnewydd – ers Medi 22
- Tref Llanelli – ers Medi 26
- Caerdydd – ers Medi 27
- Abertawe – ers Medi 27
- Castell-nedd Port Talbot – yn dod i rym am 6yh Medi 28
- Bro Morgannwg – yn dod i rym am 6yh Medi 28
- Thorfaen – yn dod i rym am 6yh Medi 28
“Cyfnod clo rhanbarthol”
“Efallai na fydd y prif weinidog eisiau iddo gael ei ddisgrifio fel ‘cyfnod clo rhanbarthol’ ond gyda dwy filiwn o bobol yng nghoridor de Cymru dan ryw fath o gyfyngiadau bellach, dyna yw e, yn anffodus,” meddai Andrew R T Davies.
“Dw i unwaith eto’n ailadrodd fy ngalwad o’r wythnos ddiwethaf.
“Hoffwn weld camau wedi’u targedu’n fwy gan weinidogion – yn lleol ac nid yn genedlaethol.
“Mae hefyd yn ddyletswydd ar weinidogion Llafur i gynnig cefnogaeth ariannol frys i gefnogi’r busnesau hynny fydd yn cael eu taro’n wael gan y cyhoeddiad hwn.”
Ffigurau diweddaraf
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun (Medi 28) y cafwyd 286 yn rhagor o achosion o Covid-19 yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm nifer yr achosion a gadarnhawyd i 23,231.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru na nodwyd unrhyw farwolaethau pellach, gyda chyfanswm y marwolaethau ers dechrau’r pandemig yn aros ar 1,612.
Ond dydy’r ffigurau ddim yn debygol o fod yn fanwl gywir yn sgil y ffordd y mae achosion a marwolaethau’n cael eu hadrodd a’u cofnodi.