Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd yn parhau ar agor er gwaetha’r cyfnod clo lleol ym Mro Morgannwg.
Mae Bro Morgannwg ymhlith tair sir fydd yn dechrau ar gyfnod clo lleol am 6 o’r gloch heno (nos Lun, Medi 28), ac mae’n gartref i’r maes awyr.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed y maes awyr fod aros ar agor yn “hanfodol” i isadeiledd Cymru.
“Mae cyfyngiadau’r cyfnod clo lleol yn nodi na ddylai trigolion mewn ardaloedd sy’n destun cyfnod clo deithio y tu allan i’r ardal oni bai bod esgus resymol dros wneud hynny,” meddai’r datganiad.
“I’r sawl sy’n teithio o ardaloedd nad ydyn nhw mewn cyfnod clo, does dim cyfyngiadau cyfreithiol ynghylch teithio i’r maes awyr cyn belled â bod rheolau’n cael eu dilyn wrth iddyn nhw wneud hynny.”
Canllawiau
“Dylai cwsmeriaid ddilyn canllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig cyn teithio a phenderfynu a oes ganddyn nhw hawl i adael yr ardal a bod ganddyn nhw reswm dilys dros hedfan.
“Nid mater i’r maes awyr yw penderfynu ynghylch hyn.
“I unrhyw gwsmeriaid nad ydyn nhw bellach yn gallu hedfan, byddwn yn parhau i ad-dalu costau parcio ceir ac archebion lolfa weithedol a gafodd eu gwneud yn uniongyrchol ar wefan Maes Awyr Caerdydd.
“Am unrhyw ymholiadau’n ymwneud â hediadau a gwyliau, dylai cwsmeriaid gysylltu â’u cwmni awyr, trefnydd neu asiant teithio.
“Rydym yn parhau i ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru gan gadw diogelwch ein tîm a’n cwsmeriaid yn brif flaenoriaeth.”