Mae un arall o fariau Abertawe wedi gorfod cau ei ddrysau i’r cyhoedd am y tro yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.
Daeth y cyhoeddiad gan Copper Bar yng nghanol y ddinas ar eu tudalen Facebook.
Dim ond ddoe roedden nhw wedi agor yn dilyn y cyfnod clo, ac mae’r rheolwr Lee West yn dweud nad oedd digon o staff yn gweithio yno.
Mae’n dweud nad oedd modd cadw llygad ar y bar ar y llawr gwaelod, a bod cwsmeriaid wedi dechrau symud o gwmpas gan ddod i gysylltiad â’i gilydd.
Mae’n dweud bod swyddog trwyddedu’n aros amdano wrth iddo ddychwelyd i’r prif far ar y llawr uchaf oedd, erbyn hynny, “dan ei sang”.
Datganiad
“Fe wnes i dynnu fy llygaid oddi ar y bêl a galluogi fy sylw i gael ei gymryd i ffwrdd,” meddai mewn datganiad.
“Ac fe ges i’r cyfan yn ormod wrth i’r noson fynd yn ei blaen gyda llawer iawn o ddiodydd wedi’u gwerthu.
“Dw i’n derbyn cyfrifoldeb llawn ac fe fydd unrhyw un sydd wedi fy nilyn ers y dechrau’n gwybod fy mod i bob amser wedi cefnogi gwarchodaeth ac agor unwaith roedd yn ddiogel gwneud.”
Mae’n dweud bod y swyddog wedi rhoi gwybod iddo pe bai e wedi mynd i’r bar fis diwethaf y byddai wedi “cael rhybudd” yn lle gorfod cau.
“Mae’n ymddangos yn annheg am drosedd gyntaf ar y diwrnod cyntaf wnes i agor, ond dw i’n parchu’r penderfyniad a’r weithred a byddaf yn dysgu o hyn ac yn cydweithredu,” meddai wedyn, gan egluro fod pob mesur posib yn eu lle.
Bydd rhaid i’r bar aros ynghau tan bod gwelliannau’n cael eu cyflwyno.
Cefnogi’r gymuned
Er bod y bar ynghau am y tro, dywed Lee West y bydd yn parhau i gefnogi’r gymuned leol yn ystod ymlediad y coronafeirws.
“Alla i ddim cael pobol yn Copper, ond galla i fynd â Copper atyn nhw a rhoi hwb iddyn nhw,” meddai.