Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn disgrifio’r cyfnodau clo lleol sydd mewn grym yn rhannau helaeth o’r de erbyn hyn fel “cyfnod clo rhanbarthol”.
Mae Llanelli dan fesurau llym ers neithiwr (nos Sadwrn, Medi 26), tra bod mesurau’n dod i rym yn Abertawe a Chaerdydd o 6 o’r gloch heno (nos Sul, Medi 27).
Mae’r ardaloedd hyn yn ymuno â Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, sy’n golygu bod 1.5m o boblogaeth Cymru dan gyfnod clo erbyn hyn.
Ond mae Llywodraeth Cymru’n dweud mai cyfres o gloeon lleol ydyn nhw, ac nid cyfnod clo cenedlaethol.
Ond wrth i Fro Morgannwg, Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot gael eu hychwanegu at y rhestr, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn amau hynny.
Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig
“Efallai na fydd y prif weinidog eisiau iddo gael ei ddisgrifio fel ‘cyfnod clo cenedlaethol’ ond gyda dwy filiwn o bobol yng nghoridor de Cymru dan ryw fath o gyfyngiadau bellach, dyna yw e, yn anffodus,” meddai Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dw i unwaith eto’n ailadrodd fy ngalwad o’r wythnos ddiwethaf.
“Hoffwn weld camau wedi’u targedu’n fwy gan weinidogion – yn lleol ac nid yn genedlaethol.
“Mae hefyd yn ddyletswydd ar weinidogion Llafur i gynnig cefnogaeth ariannol frys i gefnogi’r busnesau hynny fydd yn cael eu taro’n wael gan y cyhoeddiad hwn.
“Dylai gweinidogion hefyd ailystyried atal swigod cymdeithasol neu aelwydydd estynedig.
“Mae’r diffyg sylw i iechyd meddwl unigolion yn bryder mawr ac fe allai hwn fod yn gyfnod anodd iawn i’r sawl sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
“Plis, meddyliwch eto.”
Mae’n cwestiynu beth fydd canlyniad codi’r cyfyngiadau yn y pen draw.
“Heddiw, maen nhw’n sôn am y posibilrwydd o godi’r cyfyngiadau mewn ardaloedd oedd dan glo eisoes, fel Caerffili.
“Ond pan fo hynny’n digwydd, gallwch ddisgwyl i’r feirws gylchredeg eto.
“Mae’n debygol fod y dull hwn yn anghynaladwy.”