Mae Grenville Ham, cyn-arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru sydd bellach yn cynrychioli Plaid Cymru ar Gyngor Tref Aberhonddu, wedi egluro pam iddo ddychwelyd Medal yr Ymerodraeth fis diwethaf, wyth mlynedd ar ôl iddo gael ei anrhydeddu.
Mewn cyfres o negeseuon ar Twitter, mae’n dweud ei fod e’n gweithio ym Mannau Brycheiniog yn 2006 pan gafodd e anafiadau mewn damwain car oedd wedi arwain at golli ei swydd, ac roedd yn ofni na fyddai’n cael gweithio eto.
Roedd y ddamwain wedi ei adael â phroblemau corfforol ac â’i leferydd, ond fe ddechreuodd e greu taenlenni ar gyfer prosiect ynni gwyrdd.
Yn ddigon iach i ddychwelyd i’r gwaith ymhen blwyddyn, mae’n dweud iddo roi ei gynllun ynni gwyrdd ar waith, gan ennill cyfran o wobr o £1m ar y cyd â ffrind er mwyn cael datblygu prosiect newid hinsawdd.
Y prosiect oedd cydweithio â ffermwyr yng Nghymru i ddatblygu cynlluniau meicro-hydrobwer a defnyddio’r elw i greu systemau cymunedol.
Y bwriad oedd creu cadwyn gyflenwi lleol er mwyn rhoi’r arian yn ôl i’r economi leol, a hynny gan ddibynnu ar wirfoddolwyr i redeg cwmni adeiladu oedd wedi arwain at 60 o ffermydd yn orsafoedd pwer bach a dwsinau o gymunedau’n rheoli eu prosiectau eu hunain.
Cydnabyddiaeth
Mae’n dweud wedyn iddo dderbyn llythyr gan y Prif Weinidog yn cynnig anrhydedd am “wasanaethau i’r Diwydiant Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru”.
“Ar y pryd, ro’n i’n teimlo embaras o gael fy enwi’n unigol, gan fod y llwyddiant yn ddibynnol ar ymdrechion dwsinau o bobol, nid dim ond fi.
“Ond er gwaethaf fy amheuon, ro’n i’n meddwl y byddai derbyn yr anrhydedd yn goleuo’u byd nhw.
“Hefyd, ar y pryd, roedd fy mam yn ei chael hi’n anodd ymdopi â cholli ‘nhad ac felly ro’n i’n teimlo y byddai gwobr fel hon yn ei gwneud hi’n hapusach. A dw i’n credu y gwnaeth hi.”
Ond mae’n dweud bod yr amheuon yn dal yno.
“Tua’r un adeg, roedd gwleidyddion yn dechrau tarfu ar y diwydiant ynni gwyrdd,” meddai wedyn.
“Gormod o enghreifftiau i sôn amdanyn nhw, fel cynyddu trethi ar gyfer technoleg werdd, torri trethi ar gyfer tanwyddau ffosil neu ffi trwyddedau’n codi o dros 1000%.
“Bob mis, roedd pytiau gan wleidyddion am ba mor ddifrifol oedden nhw ynghylch yr hinsawdd ond eto i gyd, roedd yr un bobol yn chwalu gobeithion gyda pholisïau o blaid tanwyddau ffosil, diwydiant corfforaethol ac economi echdynnol.
Hanfod y ddadl
“A dyna’r hanfod,” meddai wedyn.
“Mae gormod o’r gwleidyddion hyn yn derbyn anrhydeddau tebyg, fel arfer am wasanaeth cyhoeddus neu rywbeth, ac ar ôl gweld sut mae’r rhai sy’n eu derbyn yn ymddwyn, sut maen nhw’n methu â chyflwyno unrhyw newid ystyrlon, dw i ddim eisiau unrhyw beth i wneud ag e.
“Mae gen i barch mawr at y bobol hynny sy’n derbyn anrhydeddau am yr hyn maen nhw wedi’i roi o’u gwirfodd i’r gymdeithas – y gofalwyr maeth, y trefnwyr chwaraeon lleol a’r sawl sydd wedi ymroi yn ystod eu bywydau i helpu eraill.
“Dw i’n gobeithio nad ydw i’n sarhau neb ohonyn nhw.”
Braint etifeddol, teulu brenhinol a’r Ymerodraeth
“Ond wrth ei graidd, dyma system sy’n cael ei thanlinellu gan fraint etifeddol, teulu brenhinol â record amheus ar newid hinsawdd a stori Ymerodraeth y mae angen ei dweud yn well nag y caiff hi ei dweud,” meddai wedyn wrth fynd at graidd ei resymau.
“Mae gormod o bobol mewn swyddi grymus, a allai fod yn helpu ein rhywogaeth i fynd i’r afael â bygythiad mwya’r byd, ond sydd yn hytrach yn ymgiprys am ffafrau da yn y gobaith o gael ‘gong’.
“Alla i ddim tanysgrifio i hynny rhagor.
“Dw i ddim eisiau ‘hyn’ ar ôl fy enw.
“Mae’n fy ffieiddio o weld Tywysog Cymru yn hybu’r angen am herio newid hinsawdd wrth iddo hedfan mewn awyren breifat i fynd i dwrnament golff, neu’n aros yn dawel wrth i economi werdd dyfodol Cymru gael ei rhoi mewn hualau.
“Mae dewisiadau gwleidyddol yn cael eu gwneud yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig sy’n bygwth union bwrpas ein hecosystem.
“Penderfyniadau a fydd yn achosi dioddefaint i’r rhai mwyaf bregus ar y Ddaear. 
“Alla i ddim esgus mwyach fod rhwysg ac ymostwng yn golygu rhywbeth.
“Does dim angen tlysau arnom, mae angen gweithredu ‘troed ar y sbardun’ er mwyn herio newid hinsawdd. 
“Mae angen diffuantrwydd, grym cymeriad, pobol sydd yn sefyll dros rywbeth go iawn.”
Sefyll yn etholiadau’r Senedd
Mae’n gorffen ei neges drwy ddweud y bydd yn sefyll yn enw Plaid Cymru yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
“Ond mae diben i’r hyn rydych chi’n ei wneud yn bwysig,” meddai.
“Bod yn garedig, sefyll i fyny i fwlis, herio anghydraddoldeb a’r argyfwng ecolegol sy’n bwysig, nid brwydro am safle o bwys neu fraint.
“Mae angen i Gymru gael pobol mewn grym sy’n deall mai’r un peth yw adferiad economaidd ôl-Covid a chwyldro gwyrdd.
“Gwell fyth os ydyn nhw’n gwybod sut mae hyn yn edrych yn ymarferol.
“Ac ie, efallai y dylwn i fod wedi gwrthod yn y lle cyntaf.
“Efallai bod fy ego wedi cymryd drosodd am gyfnod.
“Ond pe bai fy mam yn dal yn fyw, byddai hi fwy na thebyg yn dweud rhywbeth fel, “Gwna beth sy’n dy wneud di’n hapus, Grenner”.
“Felly mi ydw i wedi, ac mae’n rhyddhad cael bod yn fi eto.”