Bydd cyfnod clo lleol yn cael ei gyflwyno o yfory (dydd Llun, Medi 28) yn siroedd Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thorfaen.

Dywed y prif weinidog Mark Drakeford fod rhaid tynhau’r cyfyngiadau ymhellach yn sgil cynnydd mewn achosion.

Bydd y cyfyngiadau’n dod i rym am 6 o’r gloch nos Lun.

Fel trigolion mewn sawl ardal o Gymru erbyn hyn, fydd dim hawl gan drigolion y siroedd hyn adael heb reswm rhesymol sy’n cynnwys teithio i’r gwaith neu i’r ysgol.

Fydd dim hawl chwaith i bobol gyfarfod yn yr awyr agored â phobol nad ydyn nhw’n byw â nhw.

Bydd rhaid i leoliadau trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10 o’r gloch y nos.

Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo mwgwd mewn llefydd cyhoeddus dan do, sy’n cynnwys siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Ymateb Mark Drakeford

“Yn dilyn cynnydd pryderus mewn achosion o’r coronafeirws ledled de Cymru, fe wnaethon ni weithredu ddydd Gwener i gyflwyno cyfyngiadau coronafeirws lleol yn Llanelli a bydd cyfyngiadau lleol yn dod i rym yn ein dwy ddinas fwyaf – Caerdydd ac Abertawe – heno,” meddai Mark Drakeford, prif weinidog Cymru.

“Rydym bellach am gymryd camau pellach ac yn gosod tair ardal arall dan gyfyngiadau lleol yn ne Cymru – Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg – oherwydd rydyn ni’n gweld cyfraddau’n codi yn y tair ardal hyn.

“Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn rhannu ffiniau ag ardaloedd awdurdodau lleol lle mae cyfraddau dipyn uwch.

“Mae cyflwyno cyfyngiadau mewn unrhyw ran o Gymru bob amser yn benderfyniad anodd dros ben i’w wneud.

“Ond rydym yn gweithredu er mwyn gwarchod iechyd pobol a cheisio torri’r gadwyn ymledu ac atal y sefyllfa rhag mynd yn waeth.”

Ond mae’n dweud nad yw’r cloi yn un rhanbarthol ond yn hytrach, yn gyfres o gloeon lleol i ymateb i’r sefyllfa fesul ardal.

“Mewn rhai llefydd fel Caerffili a Chasnewydd, rydyn ni wedi gweld cwymp bositif iawn yn yr ymateb a gobeithio y gallan nhw gael eu llacio os ydyn nhw’n parhau.

“Mae’n bwysig iawn fod pawb yn dilyn y rheolau lle maen nhw’n byw.

“Mae angen cymorth pawb arnom er mwyn rheoli’r coronafeirws.

“Mae angen i bawb dynnu ynghyd a dilyn y mesurau sydd yno i’ch gwarchod chi a’ch anwyliaid.”