Mae dyn wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r ymchwiliad i lofruddiaeth y plismon Matt Ratana, yn ôl Heddlu Llundain.

Cafodd y plismon ei saethu gan garcharor mewn cyffion yn Croydon fore Gwener (Medi 25).

Cafodd dyn ei arestio yn ardal Norwich heddiw (dydd Sul, Medi 27) ar amheuaeth o gyflenwi arfau.

Mae’r un sydd dan amheuaeth o saethu’r plismon mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, a dydy’r heddlu ddim eto wedi gallu ei holi.