Mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, wedi dweud wrth golwg360 ei fod e am ysgrifennu at bennaeth Carchar y Berwyn yn Wrecsam i’w holi ynghylch hawl carcharorion i siarad Cymraeg yn y carchar.

Mae adroddiadau yn y Daily Mail fod carcharorion sy’n siarad Cymraeg yng ngharchar y Berwyn yn colli breintiau ac yn wynebu rhagfarn am siarad Cymraeg, a hynny am nad yw swyddogion y carchar yn eu deall nhw.

Daw’r honiadau yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Bwrdd Monitro Annibynnol.

Yn ôl Arfon Jones, os yw’r honiadau’n wir, yna mae “pethau wedi mynd yn eu holau” o ran y Gymraeg yn y carchar.

“Dw i wedi synnu’n fawr, a deud y gwir,” meddai wrth golwg360.

“Pan agorwyd y carchar gynta’, oeddan ni ’di gneud yn siŵr bod ’na adnoddau a staff oedd yn gallu siarad Cymraeg yna.

“Oedd ’na uchel swyddogion yn gallu siarad Cymraeg yna yr adeg hynny.

“Mae’n edrych yn debyg bod pethau wedi mynd yn eu holau, mae’n debyg trwy newidiadau mewn staff a newid o ran wardeiniaid newydd yn dod yna.”

‘Ddim yn ddigon da’

“Ond dydi o ddim yn ddigon da, a bod yn onest,” meddai wedyn.

“Mae o’n mynd yn erbyn canllawiau’r iaith Gymraeg i’r carchar, y Safonau ac yn y blaen.

“Dw i’n siwr fydd gen Aled Roberts, Comisiynydd yr Iaith, dipyn i ddeud ynglyn â’r peth, gymaint â fi, a deud y gwir.

“Mae gennon nhw bolisi.

“Mi ddylsai fod hyn a hyn o staff yn gallu siarad Cymraeg. Mae adnoddau Cymraeg yna, fel llyfrgell a ballu.

“Mi gaethon ni’n darbwyllo ar y cychwyn fysa galwadau carcharorion sy’n siarad Cymraeg yn cael ymateb, ond mae’n amlwg bo hyn ddim yn digwydd.

“Mae angen edrych i mewn i hyn, ac mae angen i ni gael ein hargyhoeddi os ydi o wedi bod yn digwydd, nad ydi o am gario ymlaen i ddigwydd.

“Ddylsai carcharorion sy’n siarad Cymraeg ddim bod yn cael eu hawliau wedi’u tanseilio fel sydd wedi bod yn digwydd.

“Mae ’na fwrdd monitro annibynnol i bob carchar ac maen nhw’n mynd i mewn ac yn siarad efo carcharorion, felly does dim rheswm i feddwl fod hyn ddim yn wir.”

Pethau heb wella?

Yn ôl Arfon Jones, roedd yr un broblem yn bod yng ngharchar Altcourse yn Lerpwl.

“Fanno oedd y rhan fwya’ o garcharorion gogledd Cymru’n mynd iddo fo,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod problemau wedi bod dros y blynyddoedd ond oherwydd staff ac uchel swyddogion Cymraeg, dw i’n meddwl bod y broblem wedi’i sortio.

“Mae swyddog polisi fi a swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn ymgynghori a chynghori’r carchar sut i fynd o gwmpas i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

“Ond mae hyn wedi mynd ar goll ar hyd y blynyddoedd.

“Heddiw, mi wna’i ysgrifennu llythyr uniaith Gymraeg at Nick Leader – fo sy’n gyfrifol am Garchar y Berwyn – a gofyn iddo fo am y sylwadau yma sydd yn y papurau, a gweld be ydi’r cynllun sydd genno fo i wella pethau, a dw i’n amau dim na fydd Aled Roberts yn gneud yr un fath.”