Mae gwyddonydd yn rhybuddio bod trydedd ton o’r coronafeirws “yn gwbl bosib”, gan ddweud mai “oedi” ac nid “datrys” y sefyllfa mae cyfnodau clo lleol.

Tra bod mesurau llym yn atal argyfwng ar unwaith ac yn arafu’r ymlediad, dydyn nhw ddim yn dileu’r feirws, yn ôl Mark Woolhouse, Athro Epidemioleg Afiechydon Heintus Prifysgol Caeredin.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr ar y BBC fod modelu yn y gorffennol wedi dangos yr angen am ail gyfnod clo y mis yma.

Ac mae’n dweud ei bod yn “gwbl bosib” y gallai trydedd ton daro ar ryw adeg yn y dyfodol.

“Os ydych chi’n credu na fydd brechlyn ar gael o fewn chwech i 12 mis neu ddwy flynedd ac ati, yna mae’n golygu bod angen opsiwn arall arnom,” meddai.

“Yr opsiynau amgen sydd wedi cael eu crybwyll hyd yn hyn yw’r pethau hynny fel rhaglen Moonshot ar gyfer profi torfol.”

Brechlyn

Er bod disgwyl i frechlyn fod ar gael o fewn chwe mis, dydy hynny ddim yn golygu y bydd pawb yn ei gael yn fuan wedyn, meddai.

Ac mae’n dweud bod Sweden yn brawf fod “cyfnod clo llym” yn gallu bod yn llwyddiannus, ond fod angen i’r cyfyngiadau fod yn gynaladwy yn y tymor hir.

“Dw i’n ofni nad ydw i’n gweld ffordd ymlaen drwy hyn i gyd dros y misoedd a hyd yn oed y blynyddoedd i ddod lle nad oes gyda ni gyfyngiadau yn eu lle.

“Dyma’r normal newydd.”

Dywedodd nad oedd gan Lywodraeth Prydain opsiynau eraill ar wahân i gyfnod clo cenedlaethol ar ddechrau’r ymlediad.

Ac mae’n dweud ymhellach nad yw’n ymwybodol o unrhyw fodelu ar gyfer cau tafarnau am 10 o’r gloch y nos ac mai penderfyniadau ar sail greddf a mympwy ydyn nhw.

Ond mae Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, wedi gwadu nad oedd “gwyddoniaeth bendant” y tu ôl i’r penderfyniad i gau tafarnau, bariau a bwytai am 10 o’r gloch.

Cafodd sylwadau yr Athro Mark Woolhouse eu hategu gan yr Athro Graham Medley, aelod arall o bwyllgor Sage, wrth iddo ddweud nad yw’n cofio sôn am y cyrffiw yng nghyfarfodydd y pwyllgor.

Prifysgolion

Yn ôl yr Athro Mark Woolhouse, roedd y niferoedd uchel o achosion mewn prifysgol yn “gwbl ragweladwy”.

Mae Llywodraeth Prydain dan bwysau ar hyn o bryd i sicrhau na fydd rhaid i fyfyrwyr aros yn eu hystafelloedd mewn neuaddau preswyl dros gyfnod y Nadolig.

Mae miloedd o fyfyrwyr yn hunanynysu yn Glasgow, Manceinion a Chaeredin ar hyn o bryd.

Yn ôl y gwyddonydd, mae modelu blaenorol ym Mhrifysgol Bryste yn dangos bod myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf mewn neuaddau preswyl mewn perygl arbennig o gael eu heintio, a bod dysgu wyneb-yn-wyneb yn debygol o ehangu ymlediad y feirws.