Mae cynlluniau wrth gefn yn cael eu hystyried rhag ofn na fydd modd cynnal etholiadau Holyrood y flwyddyn nesaf.
Daw’r cadarnhad ar ôl i Lywodraeth yr Alban fynnu na fyddai’r etholiadau’n cael eu gohirio yn sgil y coronafeirws.
Bellach, mae lle i gredu bod Llywodraeth yr Alban, y Comisiwn Etholiadol, swyddogion y llywodraeth a’r pleidiau gwleidyddol yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.
Dydy’r union opsiynau ddim yn glir ar hyn o bryd, ond fe allai’r etholiadau gael eu symud i fis Hydref neu fe allai’r bleidlais ddigwydd yn gyfangwbl drwy’r post.
Ond mae Llywodraeth yr Alban yn dal yn awyddus i fwrw iddi ym mis Mai, yn ôl John Swinney, y Dirprwy Brif Weinidog.
“Mae ychydig o ansicrwydd ynghylch y cyfnod o’n blaenau, a chynllun y Llywodraeth a’r Senedd yw y dylai’r etholiad gael ei gynnal yn ôl yr amserlen ar ddydd Iau cyntaf mis Mai,” meddai wrth raglen Politics Scotland y BBC.
“Mae yna gynlluniau wrth gefn yn cael sylw’r Senedd a’r holl bleidiau – byddwn yn parhau i drafod y materion hynny oherwydd mae’n hanfodol fod gennym y broses ddemocrataidd honno er mwyn galluogi pobol yr Alban i ddewis eu llywodraeth.
“O safbwynt y Llywodraeth, rydym am i’r etholiad fynd yn ei flaen ym mis Mai.”