Roedd Matt Ratana, y plismon gafodd ei saethu’n farw gan ddyn mewn cyffion, yn “ymgorffori” rhywun oedd yn gweithio er mwyn amddiffyn pobol eraill, yn ôl pennaeth Heddlu Llundain.
Yn ôl y Fonesig Cressida Dick, bydd y digwyddiad yn agoriad llygad i rai o’r peryglon sy’n wynebu’r heddlu wrth iddyn nhw fynd ati i blismona.
Mae seremoni wedi’i chynnal ger cofeb yr heddlu yn Llundain, lle mae blodau wedi’u gadael, yn ogystal ag yng Nghlwb Rygbi East Grinstead, lle’r oedd e’n hyfforddi.
Mae’n Ddiwrnod Cenedlaethol Coffáu’r heddlu heddiw (dydd Sul, Medi 27).
“Os gall peth da ddod o’r digwyddiad ofnadwy hwn lle mae un o’n swyddogion wedi cael ei lofruddio, hynny yw fod mwy o bobol yn gallu deall ychydig bach am heriau plismona a bod mwy o bobol yn ein gweld ni fel y bobol ydyn ni – bodau dynol sy’n mynd i’r gwaith i helpu pobol, i gefnogi pobol ac i amddiffyn pobol,” meddai.
“Roedd Matt yn ymgorffori hynny.”
Mae’r un sydd wedi’i amau o ladd Matt Ratana – dyn 23 oed – mewn cyflwr difrifol yn y ddalfa mewn ysbyty yn ne Llundain.
Mae Matt Ratana, oedd yn hanu o Seland Newydd, yn gadael partner a mab.
Mae sawl eiddo’n cael eu harchwilio fel rhan o’r ymchwiliad, ac mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu hefyd yn cynnal ymchwiliad.
Cafodd y dyn 23 oed ei arestio ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud â chyffuriau, ac fe daniodd ei ddryll yn y ddalfa ar ôl i’r heddlu ei arestio a’i chwilio.
Wnaeth yr heddlu ddim defnyddio’u dryllau eu hunain yn y digwyddiad, a dydy’r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un brawychol.