Mae Llywodraeth yr Alban yn annog myfyrwyr i aros yn eu hystafelloedd – gan gynnwys y rhai sy’n profi’n negyddol am y coronafeirws – wrth iddyn nhw gyflwyno camau llym i fynd i’r afael â’r feirws.

Mae myfyrwyr wedi cael gwybod y gall fod rhaid iddyn nhw aros ar eu campws dros gyfnod y Nadolig, ond mae hynny wedi arwain at nifer yn gadael y brifysgol er mwyn mynd adref ac mae’r llywodraeth yn dweud y byddan nhw’n ceisio osgoi sefyllfa o’r fath.

Yn ôl John Swinney, Ysgrifennydd Addysg yr Alban, bydd gofyn i fyfyrwyr ynysu yn eu hystafelloedd yn lleihau’r perygl o ledu’r feirws ymhellach.

“Ein cyngor i fyfyrwyr yw y dylen nhw aros yn eu neuaddau os ydyn nhw’n gallu gwneud hynny, ac mae hynny er mwyn lleihau ymlediad y feirws o amgylch y wlad,” meddai John Swinney wrth raglen Politics Scotland y BBC.

“Mae’n bwysig fod unrhyw fyfyriwr sy’n hunanynysu neu fyfyrwyr yn gyffredinol, yn y sefyllfa maen nhw’n ei hwynebu, yn derbyn cefnogaeth lawn a phriodol gan y coleg neu’r brifysgol sy’n eu cefnogi nhw, ac mae hynny’n fater rydym wedi’i flaenoriaethu yn ein trafodaethau â phrifysgolion yn ystod y diwrnodau diwethaf,” meddai.

Mae’n dweud bod dychwelyd myfyrwyr at eu teuluoedd ar gyfer y Nadolig “wrth galon yr hyn rydyn ni’n meddwl amdano”.

Dywed Llywodraeth yr Alban eu bod nhw’n ystyried unrhyw geisiadau gan brifysgolion am gymorth ariannol wrth i fyfyrwyr aros ar gampysau.