Mae Llywodraeth Prydain eisiau “person mawr a chryf” i fod yn gadeirydd nesa’r BBC – wrth iddyn nhw gael eu cyhuddo o ymyrryd yn y penodiad.

Yn ôl Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, does neb wedi cael cynnig y swydd, er bod adroddiadau bod Boris Johnson, prif weinidog Prydain, eisiau penodi Charles Moore, cyn-olygydd y Daily Telegraph i’r swydd.

Mae’r Sunday Times hefyd yn adrodd fod Paul Dacre, cyn-olygydd y Daily Mail ymhlith y rhai sy’n cael eu hystyried i arwain Ofcom, ac yntau’n un sydd wedi beirniadu’r Gorfforaeth droeon yn y gorffennol.

Mae lle i gredu y bydd y broses o benodi i’r ddwy swydd yn dechrau’n fuan dan arweiniad panel annibynnol.

Ymyrryd

Ond mae’r Blaid Lafur yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o ymyrryd yn y broses.

“Dw i’n credu bod yr holl syniad o gyhoeddi penodiadau cyn bod proses wedi digwydd braidd yn rhyfedd, mewn gwirionedd, a dw i’n credu y bydd y cyhoedd yn meddwl ble mae blaenoriaethau’r llywodraeth yn hyn o beth,” meddai Jo Stevens, llefarydd diwylliant y Blaid Lafur.

“Pam ydyn nhw’n poeni ac yn ymyrryd mewn proses a phenodiad agored i’r BBC a phennaeth Ofcom, dwy swydd uchel iawn o ran gwasanaeth cyhoeddus annibynnol sydd â chyflogau sylweddol?

“Pam fod y llywodraeth yn ymyrryd yn y math yna o beth pan ddylen nhw fod yn canolbwyntio ar afael mewn profi ac olrhain, cadw rheolaeth ar gyfraddau’r coronafeirws a chael yr economi’n ôl ar ei thraed?”

Bydd yr Arglwydd Terence Burns, cadeirydd Ofcom, yn gadael ei swydd cyn diwedd y flwyddyn, tra bydd Syr David Clementi, cadeirydd y BBC, yn camu o’r neilltu ym mis Chwefror.