Mae Llywodraeth Ffrainc yn addo gwarchod Iddewon rhag eithafwyr Islamaidd yn dilyn achos dwbwl o drywanu y tu allan i swyddfeydd Charlie Hebdo ym Mharis ddydd Gwener (Medi 25).

Mae mwy na 7,000 o blismyn a milwyr yn gwarchod Iddewon dros y penwythnos, wrth iddyn nhw ddathlu Yom Kippur.

Wrth amddiffyn yr heddlu yn dilyn y digwyddiad ddydd Gwener, dywed Llywodraeth Ffrainc eu bod nhw wedi atal 32 o ymosodiadau brawychol yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Cafodd 17 o bobol eu lladd yn ystod ymosodiadau ar swyddfeydd Charlie Hebdo ac archfarchnad Iddewig yn y brifddinas ym mis Ionawr 2015.

Ymosodiadau o’r newydd

Daw’r ymosodiadau diweddaraf yno wrth i’r achos llys i’r digwyddiadau yn 2015 ddechrau yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd yr un sydd wedi’i amau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad diweddaraf ei fod e’n targedu Charlie Hebdo ar ôl iddyn nhw ailgyhoeddi cartwnau dychanol o’r proffwyd Muhammad – yr hyn oedd wedi arwain at yr ymosodiadau yn 2015.

Cafodd dau o bobol eu hanafu ddydd Gwener.

Cafodd un person ei arestio a’i ryddhau, ac mae ei gyfreithiwr yn dweud y dylai ‘Youssef’, sydd o dras Affricanaidd, gael ei drin fel arwr ar ôl ceisio atal yr ymosodiad.