Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn galw ar i bobol sicrhau bod y gwasanaethau brys ar gael i’r bobol sydd eu hangen fwyaf yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae byrddau iechyd a gwasanaethau brys Cymru’n gweld ymddygiad tebyg i’r hyn oedd yn cael ei weld cyn y coronafeirws erbyn hyn, ac mae hynny’n golygu bod mwy o alw am wasanaethau brys.

Mae galw ar i bobol ddefnyddio gwasanaethau eraill ar wahân i’r gwasanaethau brys lle bo modd, yn enwedig os nad yw bywydau mewn perygl a’r risg o anafiadau difrifol yn isel.

Yn ôl y byrddau iechyd, gallai 20-30% o’r cleifion maen nhw’n eu gweld gael eu trin yn rhywle arall neu mewn ffordd wahanol.

Mae pobol yn cael eu cynghori i archebu presgripsiwn saith diwrnod ymlaen llaw, defnyddio fferyllfa leol a mynd at y meddyg teulu ar gyfer mân anafiadau neu salwch cyffredin.

Gall pobol hefyd gael cyngor drwy ffonio 111.

Ond maen nhw’n cynghori pobol i fynd i’r ysbyty os oes gofyn iddyn nhw wneud hynny ar gyfer apwyntiad.

Cyngor gan Vaughan Gething

“Mae’n hanfodol bod ein Hadrannau Achosion Brys a’n gwasanaethau ambiwlans argyfwng yn cael eu cadw i’r rhai sydd mewn sefyllfa ddifrifol neu sefyllfa sy’n peryglu eu bywyd,” meddai Vaughan Gething.

“Nawr yn fwy nag erioed, mae gan Adrannau Achosion Brys lai o le gan eu bod yn cadw pellter cymdeithasol, nid yn unig ar gyfer cleifion ond ar gyfer staff hefyd.

“Os oes gan rywun gwyn iechyd sy’n peri pryder iddo ac nad yw’n gwella, gall gysylltu â’i fferyllfa, yr optegydd, gwasanaeth gwefan neu ffôn 111, y feddygfa leol neu ganolfan iechyd i gael ei asesu.

“Rydym yn erfyn arnoch i gadw ein Hadrannau Achosion Brys yn rhydd i’r rhai sydd â chwynion difrifol fel gwaedu a llosgi difrifol, strôc neu golli ymwybyddiaeth.”

Ymateb y Gwasanaeth Ambiwlans

“Wrth i’r gaeaf ddynesu’n gyflym ac ail don bosibl o COVID-19 ar ddechrau, mae’n bwysicach nag erioed bod pobol yn gwneud penderfyniadau deoth wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

“Yn y Gwasanaeth Ambiwlans, rydym wedi gweld bod lefelau’r galw wedi dychwelyd yn gyflym yn yr wythnosau diwethaf at fel yr oedden nhw cyn dechrau’r cyfyngiadau coronafeirws, felly mae angen i’r cyhoedd wneud ei ran i leihau’r pwysau ar y gwasanaethau brys.

“Diben ein gwasanaeth ambiwlans yw helpu pobol sydd â salwch neu anaf difrifol neu bobol y mae eu bywydau mewn perygl.

“Mae angen i ni neilltuo ein hadnoddau hanfodol iddyn nhw, a allai un dydd fod i chi, eich plentyn, eich rhiant, eich partner neu’ch ffrind.

“Os nad yw’n achos brys neu’n un sy’n peryglu bywyd, mae yna lawer iawn o wasanaethau eraill heblaw 999 ar gael i chi.

“Drwy wneud hyn, byddwch yn diogelu’ch hun, pobol eraill a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”