Mae lluoedd arfog Pacistan yn dweud bod milwr wedi cael ei ladd gan luoedd Indiaidd ger y ffin yn Kashmir, a’u bod nhw wedi ymateb drwy daro targedau Indiaidd.

Ond mae India’n dweud iddyn nhw ymateb i ymosodiadau gan luoedd Pacistan yn ardal Rajouri.

Dydy hi ddim yn glir faint o ddifrod na sawl bywyd sydd wedi’u colli yn yr anghydfod diweddaraf.

Mae gwrthdaro rhwng y ddwy wlad yn gyson ers i gadoediad 2003 gael ei dorri.

Mae Pacistan yn cyhuddo India o dorri’r cadoediad dros 2,000 o weithiau ers dechrau’r flwyddyn.

Bu brwydro ffyrnig ynghylch pwy sy’n berchen y rhanbarth ers i India a Phacistan wahanu yn 1947.