Amy Coney Barrett yw dewis yr Arlywydd Donald Trump i lenwi sedd y diweddar Ruth Bader Ginsburg yng Ngoruchaf Lys yr Unol Daleithiau.

Mae hi’n farnwr yn Llys Apêl Chicago ac yn Babydd Rhufeinig, gyda rhai yn dweud bod ei chredoau crefyddol yn amharu ar ei gwaith, ac y gallai ei phenodi i’r sedd wag gyfyngu ar hawliau erthylu.

Ond mae Donald Trump yn dweud bod ganddi “gryn allu a chymeriad”.

Er nad yw’r Democratiaid yn debygol o allu atal y penodiad, maen nhw’n gobeithio manteisio ar y sefyllfa i wanhau gobeithion yr arlywydd o gael ei ailethol yn yr etholiad ddiwedd y flwyddyn.

Roedd lle i gredu bod Amy Coney Barrett wedi dod yn agos iawn at gael ei phenodi yn 2018 pan gafodd Brett Kavanaugh ei ddewis yn dilyn ymddeoliad Anthony Kennedy.

Yn 48 oed, hi fyddai’r barnwr ieuengaf ac mae pryderon eisoes y bydd hi’n gwyrdroi’r holl waith ar hawliau y bu Ruth Bader Ginsburg mor frwd yn ei gylch.