Mae’r Blaid Lafur yn San Steffan yn galw am roi’r hawl i fyfyrwyr fynd adref o’r brifysgol dros y Nadolig.

Daw’r alwad yn sgil pryderon y gallai nifer achosion y coronafeirws gynyddu’n sylweddol dros fisoedd y gaeaf, ac y gallai myfyrwyr orfod aros yn eu neuaddau preswyl.

Mae miloedd o fyfyrwyr bellach yn gaeth i’w hystafelloedd ar gampysau mewn sawl dinas, gan gynnwys Glasgow, Manceinion a Chaeredin.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wrthod wfftio’r posibilrwydd y bydd rhaid i fyfyrwyr aros ar eu campysau trwy gydol y gwyliau, ar ôl i un o wyddonwyr Llywodraeth Prydain awgrymu y gall fod angen gwneud hynny er mwyn arafu ymlediad y feirws ac er mwyn osgoi heintio perthnasau oedrannus.

Mae Kate Green, llefarydd addysg Llafur, wedi galw ar Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, am sicrwydd na fydd y fath gyfyngiadau’n cael eu cyflwyno, gan ddweud y byddai’n “annheg iawn”.

Mae hi hefyd yn galw am brofi pob myfyriwr er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel iddyn nhw fynd adref ar gyfer y Nadolig, ac am oedi cyn dechrau tymor newydd yn y brifysgol er mwyn sicrhau bod y system brofi’n gwella’n ddigonol a bod modd cynnal yr holl sesiynau addysg o bell.

Ymateb San Steffan

Wrth ymateb, dywed Adran Addysg San Steffan eu bod nhw’n “cydweithio’n agos” â phrifysgolion a’u bod nhw wedi rhoi canllawiau ar sut i gadw myfyrwyr a staff “mor ddiogel â phosib”.

Maen nhw’n galw ar fyfyrwyr i ddilyn y canllawiau hynny, gan gynnwys aros yn y brifysgol os oes ganddyn nhw symptomau neu ynysu.

Mae Prifysgol Glasgow eisoes wedi cadarnhau y bydd myfyrwyr yn cael ad-daliad ar gyfer mis o rent, ynghyd â swm o £50 i brynu bwyd.