Bydd cyfnod clo lleol yn Abertawe a Chaerdydd yn dod i rym am 6 o’r gloch heno (nos Sul, Medi 27).

Mae’n golygu y bydd 1.5m o boblogaeth Cymru ac wyth awdurdod gwahanol bellach dan gyfyngiadau llym erbyn hynny.

Daeth cyfnod clo lleol i rym yn Llanelli neithiwr (nos Sadwrn, Medi 26).

Mae’r ardaloedd hyn yn ymuno â Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili.

Daw’r cyfnodau clo newydd wrth i nifer achosion y coronafeirws godi i 56 ym mhob 100,000 o bobol yn Abertawe ar gyfer yr wythnos, tra mai 38 yw’r ffigwr yng Nghaerdydd.

152 oedd y ffigwr yn Llanelli ar gyfer yr wythnos, sydd dipyn uwch na gweddill Sir Gaerfyrddin.

Y rheolau

Fel rhan o’r cyfnod clo, all neb fynd i mewn nac allan o’r siroedd sydd dan glo heb fod ganddyn nhw “esgus rhesymol”.

Ymhlith y rhesymau dilys am deithio mae gwaith os nad oes modd gweithio o gartref, mynd i’r ysgol, rhoi gofal a phrynu bwyd neu feddyginiaeth.