Mae gwrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr yn erbyn cyfyngiadau’r coronafeirws wedi arwain at helyntion mewn rali yn Llundain y pnawn yma.

Roedd miloedd o bobl yn protestio yn Trafalgar Square i ddangos eu gwrthwynebiad i gyfyngiadau cloi, heb neb i’w gweld yn gwisgo mygydau na chadw pellter cymdeithasol.

Wrth i’r heddlu geisio gwasgaru’r torfeydd a chau’r digwyddiad, cafodd protestwyr eu llusgo oddi yno mewn cyffion. Fe fu protestwyr yn taflu dŵr a photeli, a phlismyn yn defnyddio batons yn eu herbyn.

Cafodd o leiaf dri phrotestiwr ac un plismon eu trin gan staff meddygol.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu:

“Mae torfeydd yn Trafalgar Square heb gydymffurfio ag amodau eu asesiad risg ac maen nhw’n rhoi pobl mewn perygl o drosglwyddo’r feirws.

“Mae hyn wedi annilysu eu asesiad risg ac rydym yn gofyn i’r rheini sydd yn Trafalgar Square i adael.

“Trwy adael nawr, gallwch gadw’ch hun yn ddiogel ac osgoi unrhyw gamau gorfodi gan yr heddlu.”