Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio am ‘gynnydd cyflym iawn’ mewn achosion o’r coronafeirws ym Mlaenau Gwent.

Cafodd 42 o achosion newydd eu cadarnhau yno heddiw, sy’n cyfateb â chynnydd o 7.2% mewn achosion mewn un diwrnod. Dyma’r cynnydd canrannol uchaf o bell ffordd yng Nghymru.

“Rydym yn annog pawb sy’n byw ym Mlaenau Gwent ac sydd â symptomau Covid-19 i fynd am brawf,” meddai Dr Christopher Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Mae uned brofi symudol wedi’i gosod yn yr ardal. Gall trigolion lleol archebu prawf trwy ffonio 0300 303 1222.”

Dim ond yn Rhondda Cynon Taf ac Abertawe, sy’n siroedd ac iddyn nhw boblogaethau llawer uwch y cafwyd niferoedd mwy o achosion newydd (67 a 58).

Ledled Cymru, cafodd 356 o achosion newydd eu cadarnhau, cynnydd cenedlaethol o 1.6% mewn achosion.

Cafwyd 36 o achosion newydd yng Nghaerdydd, nifer ychydig yn is na ddoe. Ni chafwyd dim achosion newydd yng Ngheredigion a Sir Fynwy, a dim ond un yr un yng Ngwynedd a Sir Fôn.

Fe fu farw tri chlaf ychwanegol o’r haint yn yr un cyfnod, gan godi cyfanswm y marwolaethau i 1,612.

Yr Alban

Mae’r nifer uchaf erioed o bobl wedi profi’n bositif i’r coronafeirws yn yr Alban dros y 24 awr diwethaf.

Mae bellach 27,232 o bobl wedi profi’n bositif yn yr Alban – cynnydd o 714 ar y diwrnod cynt.

Ni chafodd dim marwolaethau newydd eu cofnodi, fodd bynnag, gyda’r cyfanswm yn aros ar 2,510.