Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu cau pob canolfan hamdden, pwll nofio a chyfleusterau cysylltiedig sy’n cael eu rhedeg gan y Cyngor, gan fod nifer yr achosion o’r Coronafeirws yn cynyddu’n sydyn.
Daeth Grŵp Rheoli Cyngor Sir Ceredigion i’r penderfyniad gan fod canolfannau hamdden a chyfleusterau cysylltiedig yn lleoliadau risg uchel o ran trosglwyddo’r feirws.
Yn ôl y cyngor bydd y canolfannau’n cau ar unwaith er mwyn sicrhau diogelwch eu cwsmeriaid, eu staff, a’r gymuned ehangach.
Bydd y canolfannau hamdden, y pyllau nofio, a’r cyfleusterau canlynol yn cau:
- Canolfan Hamdden Aberaeron
- Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan (yr holl gyfleusterau)
- Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan
- Neuadd Chwaraeon Penglais
- Cae Pob Tywydd Aberteifi
- Cae Pob Tywydd Synod Inn
Ni fydd y cyfleusterau, gan gynnwys caeau chwarae, caeau chwarae ysgolion a chaeau pob tywydd, ar gael i’w defnyddio am y tro.
Camau i “gadw Ceredigion yn ddiogel”
Er bod Cyngor Sir Ceredigion yn cydnabod cyfraniad ymarfer corff i lesiant dinasyddion y sir, dywedant ei fod yn ddyletswydd arnynt i sicrhau bod lledaeniad y coronafeirws yn cael ei atal lle bynnag y bo modd.
Mae’r Cyngor wedi cydweithio ag ysgolion a sefydliadau addysgol eraill er mwyn sefydlu ‘swigod’ ymhlith dosbarthiadau a grwpiau blwyddyn er mwyn atal disgyblion o wahanol grwpiau rhag dod i gysylltiad agos.
Gan amlaf mae plant a phobol ifanc o bob oedran, o wahanol ysgolion a sefydliadau yn dod at ei gilydd yng Nghanolfannau Hamdden y Cyngor, ond yng nghyd-destun y feirws mae hynny’n tanseilio’r camau sydd wedi eu cymryd gan ysgolion i atal disgyblion rhag cymysgu, yn ôl y Cyngor.
Wrth ddiolch i staff y Gwasanaeth Hamdden, dyweda Cyngor Sir Ceredigion mai “diogelwch y staff a’r cwsmeriaid yw’r brif flaenoriaeth, a gan fod risg uchel y bydd y feirws yn cael ei drosglwyddo, yr opsiwn mwyaf diogel i bawb dan sylw yw cau am y tro.
“Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.”
Bydd y Cyngor yn cadw llygad ar y sefyllfa, ac yn adolygu’r penderfyniad yn seiliedig ar nifer yr achosion yng Ngheredigion.
Ar hyn o bryd, mae Ceredigion yn parhau â’r nifer lleiaf o achosion o Covid-19 yng Nghymru er bod achosion positif wedi eu cadarnhau ym Mhrifysgol Aberystwyth.