Mae gan Gwesty Cymru – gwesty wyth ystafell a bwyty poblogaidd yn Aberystwyth – berchnogion newydd.

Daw hyn ddau fis ar ôl iddo fynd i’r wal yn sgil y coronafeirws.

Dywedodd Huw a Beth Roberts, y perchnogion blaenorol, ar y pryd fod “Covid-19 wedi cael effaith andwyol ar ein busnes.”

Julian Shelley a’i wraig Anna Maria, sy’n rhedeg y Cardigan and Celtic Bay guest houses yn Aberystwyth, yw’r pechnogion newydd, ac maent wedi cadarnhau yn byddant yn cymryd drosodd Gwesty Cymru ar Hydref 7.

“Methu gaddo cael staff dwyieithog”

“Mae’r ddau ohonom wedi gwirioni ei bod yn cymryd drosodd beth oedd arfer bod yn Gwesty Cymru ar Hydref 7 2020,” meddai’r perchnogion mewn datganiad ar wefan y gwesty.

“Rydym yn caru cysyniad Gwesty Cymru. Bydd dim yn newid yn fewnol.”

Fodd bynnag, mae’r perchnogion newydd wedi dweud eu bod nhw “methu gaddo cael staff dwyieithog.”

“Nid ydym yn siaradwyr Cymraeg a gallwn ni ddim gaddo cael staff dwy ieithog, fodd bynnag byddwn yn gwneud ein gorau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.”

Gwesty’n unig i ddechrau

Mae’r perchnogion hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau dros dro ar gyfer rhedeg y gwesty.

“Am y tro, ein blaenoriaeth yw agor fel gwesty. Byddwn hefyd yn agor ein bar caffi yn ystod y dydd ac yn aros yn agored tan 8yh bob dydd.

“Byddwn yn gweini alcohol, coffi a chacennau cartref i breswylwyr a phobol sydd ddim yn aros yn y gwesty.

“Pan fydd yr amser yn iawn byddwn yn ystyried agor bwyty ar nosweithiau Iau, Gwener a Sadwrn i ddechrau.”

“Siomedig”

Mae’r Cynghorydd Sir, Ceredig Davies, sy’n cynrychioli ward Canol Aberystwyth wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “siomedig” gyda datganiad y perchnogion newydd ynghylch staff dwyieithog.

“Dw i’n siomedig bo’ nhw methu gaddo cael gafael ar bobol ddwyieithog.

“Mae’n debyg imi fod yna ddigon o bobol ddwyieithog yn yr ardal sydd angen gwaith.

“Ydi, mae’n newyddion siomedig iawn.”