Mae Priti Patel wedi cyhoeddi bod y Llywodraeth yn ystyried creu llwybrau diogel a chyfreithiol i geiswyr lloches ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig.

Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cartref fod ei hadran yn gweithio “ar hyn o bryd” i ddod o hyd i lwybrau newydd “er mwyn diogelu’r rhai y mae angen ein help arnynt”.

Daeth sylwadau Ms Patel ar ôl iddi wynebu galwadau gan bob plaid i edrych ar y mater er mwyn atal pobl rhag croesi’r Sianel mewn ffyrdd peryglus.

Mis Medi fu’r mis prysuraf erioed ar gyfer o ran pobl yn croesi’r Sianel.

Dywed rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd y dylid ystyried ffoaduriaid am loches yn y wlad ddiogel gyntaf y maent yn cyrraedd.

Dywedodd David Simmonds (Aelod Seneddol Ruislip, Northwood a Pinner): “Alla i ofyn (Ms Patel), o gofio bod angen i chi fod yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd i wneud hawliad, pa gynlluniau sydd ganddi hi a’i hadran ar gyfer creu llwybrau diogel, cyfreithiol fel bod gennym y gallu wedyn i ymyrryd yn gadarn [yn ymdrechion] masnachwyr sy’n ceisio dod â phobl i mewn yn anghyfreithlon?”

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, atebodd Ms Patel: “Mae [Mr Simmonds] yn iawn am yr angen… yr angen cynyddol… am lwybrau cyfreithiol diogel, da.

“Ond dylwn ychwanegu hefyd ei bod yn iawn ein bod ni fel Llywodraeth yn mynd ar drywydd yr unigolion sy’n hwyluso troseddu ac mae [Mr Simmonds] wedi clywed y prynhawn yma eisoes, ffigurau’r arestiadau, nifer yr euogfarnau… byddwn yn parhau i wneud hynny.

“Ac, wrth gwrs, rydym yn gweithio nawr, ar hyn o bryd, i edrych ar lwybrau newydd, llwybrau diogel a chyfreithiol ar gyfer diogelu’r rhai y mae angen ein help arnynt.”