Byddai contractwr oedd yn gyfrifol am osod cladin ar Dŵr Grenfell wedi “ei rwygo i ffwrdd a’i ailwneud” pe bai wedi gweld ansawdd gwael peth o’r gwaith, mae ymchwiliad wedi clywed.
Gellid gweld bylchau ac ymylon garw ar luniau “brawychus” o “waith gwael” a ddangoswyd i Mark Osborne, cyfarwyddwr cwmni Osborne Berry, yn ystod y gwrandawiad ddydd Llun (28 Medi).
Cafodd ei gwmni ei is-gontractio gan y cwmni a ddyluniodd y cladin, Harley Facades, i osod y cladin, ac is-gontractiodd cwmni Osborne Berry y gwaith hwn ymhellach i osodwyr hunangyflogedig.
Dangoswyd amrywiaeth o luniau i Mr Osborne o Dŵr Grenfell, gan gynnwys rhwystrau oedd i fod i atal tân rhag lledaenu yn y bwlch rhwng concrit gwreiddiol y bloc 24 llawr a’r cladin newydd y tu allan.
“D’yw hynna ddim yn dda.”
Pan ofynnwyd iddo beth fyddai wedi’i wneud pe bai wedi gweld y gwaith hwn, dywedodd Mr Osborne: “Byddwn wedi’i rwygo i ffwrdd a’i ailwneud.
“Mae’n debyg, ar y pryd, y byddwn wedi cael y ffitiwyr […] i’w rwygo i ffwrdd a’i ail-wneud.”
Wedi gweld delwedd arall o uniad gwael rhwng rhwystrau, dywedodd Mr Osborne: “D’yw hynna ddim yn dda. Byddai hynna wedi cael ei dynnu allan a’i ailwneud.”
O fwlch gweladwy arall mewn rhwystr, cyfaddefodd: “Mae hynna’n waith gwael, dylai hynna fod wedi bod yn dynnach.”
Dan bwysau gan gyfreithiwr yr ymchwiliad, Kate Grange QC, cytunodd Mr Osborne fod y lluniau’n “frawychus”, ac yn dangos “yn amlwg, nad oedd gwaith yn cael ei wneud gyda sgil a gofal rhesymol”, ond dywedodd y byddai wedi bod yn “amhosibl cadw llygad ar bopeth a oedd yn digwydd”.
Dywedodd: “Doedd dim modd gweld popeth ar yr adeilad cyn iddo gael ei orchuddio, yn y bôn.
“Byddai hyd yn oed yn anodd i [swyddogion] rheoli adeiladu neu glerciaid y gwaith weld rhai o’r pethau hyn oherwydd eu bod yn cael eu gorchuddio mor gyflym.”
Mae’r cladin ar y tŵr yng ngorllewin Llundain yn cael ei feio am ledaeniad cyflym y tân a hawliodd 72 o fywydau ym mis Mehefin 2017.
Hefyd ddydd Llun, cafodd dioddefwyr, trigolion y tŵr, a theuluoedd mewn profedigaeth wybod y byddant yn parhau i gael eu gwahardd rhag mynychu gwrandawiadau oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.
Fodd bynnag, mae’r ymchwiliad yn bwriadu rhoi cynllun ar waith i ganiatáu i ddioddefwyr fod yn bresennol eto pan fydd lefel rhybudd Covid-19 y Llywodraeth yn mynd yn ôl i lawr o bedwar i dri.