Mae adeiladwr wedi gwadu cyflawni “cynllun wedi’i weithredu’n ofalus” i lofruddio cariad ei wraig ar ôl ei ddenu i wrthdaro mewn fferm ddiarffordd, clywodd llys heddiw (28 Medi).
Roedd yr erlyniad yn honni bod Andrew Jones wedi saethu Michael O’Leary yn farw “mewn gwaed oer” oherwydd ei fod wedi darganfod ei fod yn cael perthynas gyda’i wraig.
Mae Jones, 53, yn honni i’r dryll .22 danio yn ddamweiniol tra roedd ef a Mr O’Leary, 55, yn ymrafael yn ystod dadl ar Fferm Cyncoed yn Sir Gaerfyrddin ym mis Ionawr eleni.
Dywedodd y tad-i-dri, sy’n rhedeg ei gwmni adeiladu ei hun, ei fod mewn panig ar ôl i’w ffrind ers 25 mlynedd gael ei anafu’n angheuol.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Jones wedi denu Mr O’Leary i’r fferm anghysbell yr oedd yn berchen arni drwy anfon negeseuon testun o ffôn ei wraig, Rhiannon.
Ar ôl ei saethu’n farw, cafodd Jones wared ar y corff drwy ei losgi mewn casgen olew ar iard wrth ymyl ei gartref yng Nghaerfyrddin, clywodd y llys.
Wrth ei groesholi ar ran yr erlyniad, cyhuddodd William Hughes QC y diffynnydd o newid ei stori i’r rheithgor wrth i’r dystiolaeth “ddod yn gryfach yn eich erbyn”.
“Fe wnaethoch chi ei saethu’n farw mewn gwaed oer”
“Wrth i hynny ddigwydd, rydych wedi teilwra eich tystiolaeth yn unol â hynny i gyd-fynd â’r dystiolaeth fel y mae,” meddai Mr Hughes.
“Yn hytrach na phanig, roedd hyn yn weithred wedi’i chynllunio’n ofalus i ladd Michael O’Leary.
“Yn eich datganiad amddiffyn, rydych yn dweud, ‘Bwriad y diffynnydd oedd dychryn Michael O’Leary. Nid oedd yn rhagweld y byddai unrhyw niwed yn cael ei achosi iddo ef ei hun na Michael O’Leary’.
“Pe bai hynny’n wir nid oedd angen mynd â’r gwn. Gallech fod wedi ei ddychryn drwy ddweud eich bod yn mynd i ddatgelu hyn i’w wraig.
Atebodd Jones: “Roeddwn i’n ofnus am fy niogelwch fy hun…”
Dywedodd Mr Hughes fod Jones wedi dewis y fferm “yn ofalus”, gan wybod y byddai’n dywyll ac na fyddai neb arall o gwmpas.
“Fe wnaethoch chi gymryd camau ystyriol i’w ddenu yno o dan esgus ffug ei fod yn mynd i gwrdd â Rhiannon… a phan gyrhaeddodd yno, ymhell o ‘ymrafael’ [fel] a ddisgrifiwyd gennych, fe wnaethoch chi ei saethu’n farw mewn gwaed oer,” meddai’r erlynydd.
Atebodd Jones: “Na, [d’yw hynna] ddim yn wir.”
“Gan fynd yn ôl at eich datganiad, efallai’r un llinell sydd ag elfen o wirionedd iddo, oedd fe’n dweud ‘Paid â gwneud hynna, Jones’… a oedd e’n erfyn am ei fywyd?” gofynnodd Mr Hughes.
Atebodd Jones: “Na, wnaeth e ddim yn digwydd fel yna, allwn i ddim gwneud hynny.”
Aeth Mr Hughes ymlaen: “Yn hytrach na phanig, gwnaethoch ystyried a meddwl yn ofalus am gynlluniau i fynd â’i gerbyd i faes parcio Fisherman’s a gwneud iddo edrych fel ei fod wedi lladd ei hun.
“Fe wnaethoch chi gynllunio’n ofalus […] i weithredu cynllun i ladd Michael O’Leary… [doedd gennych] ddim mewn golwg ond ei lofruddio.”
Jones: “Na, nid yw hynna’n wir.”
Yn gynharach, dywedodd y diffynnydd ei fod wedi mynd â’r gwn “mwyaf brawychus” o’i gasgliad i “ddychryn” Mr O’Leary.
“Roeddwn am iddo gael y neges – cadwa draw oddi wrthym ni,” dywedodd Jones wrth y rheithgor.
“Roeddwn i eisiau codi ofn a chywilydd arno.”
Dywedodd y diffynnydd wrth y llys fod Mr O’Leary wedi mynd am y gwn ac fod y gwn wedi tanio wrth iddo geisio ei dynnu oddi wrtho, gan achosi anaf angheuol.
“Roeddwn i mewn uffern o banig am yr holl beth. Yr oedd yn gymaint o sioc pan ddigwyddodd. Doeddwn i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl,” meddai.
Mae Jones, o Bronwydd Road, Caerfyrddin, yn gwadu llofruddiaeth. Mae’r achos yn parhau.