“Mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn fusnes i bawb,” yn ôl Cynghorwyr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn eu hadroddiad blynyddol.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi heddiw (Medi 29), ac mae’n cynnig sylwadau ar yr amcanion a gafodd eu gosod y llynedd, gan nodi’r cynnydd a wnaeth Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae’r adroddiad yn nodi bod y cynnydd allweddol yn cynnwys:

  • Blaenoriaethu lleisiau plant fel dioddefwyr a thystion camdriniaeth, a gwneud eu hanghenion yn rhan annatod o bolisïau VAWDASV.
  • Dysgu gwersi o adolygiadau o ddigwyddiadau angheuol.
  • Gweithio gyda pharterniaid academaidd a gwasanaethau arbenigol er mwyn cynyddu’r ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio wrth fynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol y rhai sy’n cyflawni trais yn erbyn merched, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol.
  • Dod o hyd i ffyrdd newydd o greu cysylltiadau â goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Sicrhau’r cyfleoedd gorau posibl i ddarparwyr gwasanaethau’r trydydd sector gael cyllid.
  • Darparu tystiolaeth ar lafar ddwywaith i’r pwyllgor craffu ar gyfer Bil Cam-drin Domestig San Steffan.
  • Ymestyn y bartneriaeth gyda Grŵp Arweinyddiaeth Cymru Gyfan ar Drais, Priodasau Dan Orfod ac Anffurfio Organau Rhywiol Merched.
  • Gweithredu’r ffyrdd gorau o ymdrin â dioddefwyr a goroeswyr mewn strategaethau lleol, ar ôl dysgu gan arbenigwyr a rhanddeiliaid ar draws Cymru a thu hwnt.

“Epidemig ein hoes”

Yn yr adroddiad, dywed y Cynghorwyr Cenedlaethol ei bod yn “deg dweud bod trais domestig a cham-drin rhywiol yn parhau i fod yn epidemig ein hoes, er gwaethaf y cynnydd, mae llawer o waith i’w wneud.

“Credwn yn ddiffuant fod yr amcanion a bennwyd gennym y llynedd yn helpu i drawsnewid y sefyllfa mewn perthynas â VAWDASV yng Nghymru.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda gwasanaethau arbenigol VAWDASV a phartneriaid allweddol yng Nghymru.

“Mae trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol o fusnes i bawb – mae angen clywed lleisiau dioddefwyr a goroeswyr yn uchel ac yn glir,” pwysleisia’r adroddiad.

“Rydym yn erfyn arnoch i wrando.”

“Pla gwirioneddol”

Wrth gyhoeddi’r adroddiad blynyddol, dywedodd Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru, ei bod yn “ddiolchgar iawn i’r Cynghorwyr Cenedlaethol gwych am yr arbenigedd a’r egni y maent yn dod â nhw i’r gwaith, ac am eu cefnogaeth barhaus.

Pwysleisiodd ei bod yn “falch” fod yr adroddiad yn “cydnabod y camau breision y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd ac yn parhau i’w cymryd.

“Fodd bynnag, mae’n gwbl atgas fod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dal i fodoli heddiw yn ein cymdeithas,” meddai wedyn.

“Mae hyn yn bla gwirioneddol ar gymunedau, unigolion a theuluoedd cyfan,” meddai Jane Hutt.

“Rwy’n falch fod Cymru’n arwain y ffordd gyda’n deddfwriaeth a’r gwaith hollbwysig y mae pobol a sefydliadau yn ei wneud ledled y wlad i ddod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben, i bawb.”