Mae teulu a ffrindiau wedi treulio 4.8 miliwn awr ychwanegol yn gofalu am berthnasau a chyfeillion â dementia yng Nghymru ers dechrau’r cyfnod clo, yn ôl ymchwil gan Gymdeithas Alzheimer Cymru.
Daw’r ystadegau wrth i’r Gymdeithas erfyn ar Lywodraeth Prydain i wella gofal cymdeithasol er mwyn osgoi trychineb dros y gaeaf.
Mae’r holl oriau ychwanegol yn cael eu priodoli i effaith negyddol y cyfnod clo ar symptomau dementia, a’r ffaith fod y system gofal cymdeithasol yn cael ei than-gyllido.
Ledled gwledydd Prydain, mae’r elusen yn credu bod teuluoedd a ffrindiau wedi treulio 92 miliwn awr ychwanegol yn gofalu am bobol â dementia ers Mawrth 23, pan gafodd y cyfnod clo ei gyflwyno.
Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru “ddim yn mynd ddigon pell”
Yn eu hadroddiad, ‘Worst hit: dementia during Coronavirus’, mae’r elusen yn trafod effaith ddinistriol y coronafeirws ar yr 850,000 o bobol sydd yn byw â dementia yng ngwledydd Prydain.
Mae 48,000 o’r cleifion hynny yn byw yng Nghymru.
Dywed yr adroddiad fod bron i 14,000 o bobol â dementia wedi marw’n sgil y feirws yng Nghymru a Lloegr rhwng mis Mawrth a mis Mehefin.
Mae’r elusen yn dadlau bod y miloedd o farwolaethau a ddigwyddodd mewn cartrefi gofal yn dangos bod gofal cymdeithasol wedi cael ei anwybyddu a’i dan-gyllido.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal er mwyn atal lledaeniad coronafeirws mewn cartrefi gofal, mae Cymdeithas Alzheimer Cymru yn dweud nad yw’n mynd yn ddigon pell.
Dywed yr elusen fod y cynllun yn dibynnu ar brofi gweithwyr a phreswylwyr cartrefi gofal yn rheolaidd – ac nad oes dibynnu ar hynny yn sgil trafferthion diweddar â phrofion.
Dydy’r cynllun ddim yn adnabod aelodau o’r teulu fel gofalwyr, hepgoriad a fydd yn golygu bod pobol â dementia yn cael eu hynysu ymhellach, meddai’r adroddiad.
Darganfyddiadau’r adroddiad
Am y tro cyntaf, mae’r adroddiad yn dangos profiadau teuluoedd yn ymdopi â dementia yn y gymuned yn ystod y chwe mis diwethaf.
Ers dechrau’r pandemig, mae symptomau miloedd o bobol gyda dementia wedi gwaethygu yn sgil gorfod hunanynysu a’r amharu a fu ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Dywedodd 83% o ofalwyr teuluol a siaradodd â’r elusen fod dirywiad wedi bod yn y symptomau.
Cafodd yr oriau ychwanegol yn gofalu am berthnasau effaith negyddol ar iechyd meddwl neu gorfforol 95% o’r gofalwyr teuluol, gyda 69% yn teimlo eu bod wedi ymlâdd trwy’r amser, 64% yn teimlo’n orbryderus, 49% yn teimlo’n isel, a 50% yn methu â chysgu.
Adroddodd 14% ohonyn nhw nad oedd ganddyn nhw amser i fynd i weld meddyg, a dywedodd 13% eu bod wedi dioddef anaf wrth ofalu am berthnasau.
Dywedodd 76% fod eu cyfrifoldebau wedi cynyddu yn ystod y cyfnod clo gan fod symptomau’r claf wedi gwaethygu.
Doedd 45% o’r gofalwyr ddim yn teimlo eu bod yn gallu cynnig digon o ofal i’w perthynas.
Roedd hanner y gofalwyr a siaradodd gyda’r elusen yn treulio mwy na 100 awr yr wythnos yn gofalu neu yn helpu’r person â dementia ers Mawrth 23.
Er hynny, roedd 40% ohonyn nhw’n treulio mwy na 100 awr yr wythnos yn gofalu cyn y cyfnod clo.
Ers dechrau’r cyfnod clo, mae llinell gymorth yr elusen wedi cael ei defnyddio dwy filiwn o weithiau, gyda nifer fawr o bobol yn dioddef o iselder, insomnia neu anaf corfforol.
“Rhaid dysgu gwersi”
“Mae’n rhaid i farwolaethau degau ar filoedd o bobol gyda dementia – pob un yn gadael teulu mewn galar eu hôl – wneud i ni stopio [i feddwl],” meddai Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymdeithas Alzheimer Cymru.
“Rwy’n gwybod na fyddwn ni wedi gweld cymaint o farwolaethau pe bai gofal cymdeithasol yn cael ei drin yn gyfartal â’r Gwasanaeth Iechyd.
“Maen nhw wedi bod yn ymladd yn erbyn pob annhegwch i gynnig gofal i’w perthnasau a’u cyfeillion.
“Ddylai Llywodraeth Prydain ddim anghofio am deuluoedd pobol â dementia eto.
“Mae’n rhaid dysgu gwersi er mwyn atal unrhyw drychineb pellach dros y gaeaf.
“Mae diffygion y system gofal cymdeithasol wedi cael eu hamlygu gan y coronafeirws – dylai system gofal cymdeithasol cynhwysol, rhad ac am ddim, sydd yn cynnig gofal safonol i bob person â dementia ddatblygu o’r llwch.”
Mae Cymdeithas Alzheimer Cymru yn galw ar Lywodraeth Prydain i:
- Ymroi i ddiwygio’r system gofal cymdeithasol fel ei fod ar gael i bawb yn rhad ac am ddim, ac yn cael ei gyllido yn yr un ffordd â’r Gwasanaeth Iechyd.
- Sicrhau bod gofal a gafodd ei atal gan y coronafeirws yn ailddechrau pan fo hynny yn ddiogel, heb asesiadau ffurfiol dianghenraid.
- Sicrhau bod Cronfa Rheoli’r Feirws yn ei lle tan o leiaf Ebrill 2021.
- Adnabod gwaith allweddol gofalwyr sy’n gofalu am bobol â dementia drwy ganiatáu i bob person mewn cartrefi gofal gael un gofalwr answyddogol, a thrwy sicrhau bod gofalwyr yn gallu cwblhau asesiadau a’u bod yn gallu cymryd hoe.
- Datblygu strategaeth glir i gynorthwyo pobol â dementia i adfer ar ôl y pandemig, gan gynnwys cefnogaeth i iechyd meddwl a chorfforol.
Yn ogystal, mae’r elusen yn galw ar y Gwasanaeth Iechyd ac awdurdodau lleol i gynnwys gofalwyr cymdeithasol a chartrefi gofal yn eu cynlluniau ar gyfer y gaeaf, gan sicrhau fod gofal cymdeithasol yn cael ei drin yn gyfartal â’r Gwasanaeth Iechyd, sicrhau osgoi ail don a sicrhau na fydd rhagor o farwolaethau.