Bydd cyfyngiadau di-fwg yn dod i rym mewn meysydd chwarae, ger ysgolion ag ysbytai yng Nghymru fis Mawrth y flwyddyn nesaf.
Golyga hyn mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wahardd ysmygu mewn meysydd chwarae a ger ysgolion.
Mae cyfyngiadau tebyg ger ysbytai wrthi’n cael eu rhoi ar waith yn yr Alban.
Mae’r mesurau di-fwg newydd yn anelu at ddiogelu iechyd pobol rhag niwed mwg ail-law a dadnormaleiddio ysmygu ymhlith plant a phobol ifanc.
Mae gwaharddiadau ysmygu gwirfoddol eisoes ar waith mewn nifer o’r lleoliadau hyn ond o fis Mawrth 2021, bydd yn drosedd ysmygu yn yr ardaloedd hyn.
‘Neges glir’
Eglurodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, fod angen i neges Llywodraeth Cymru ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus fod yn “hollol glir”.
“Mae’r dystiolaeth fod ysmygu yn niweidiol yn hollol glir ac mae’n rhaid i’n neges fod yn hollol glir hefyd,” meddai.
“Mae cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd i gyfyngu ar ysmygu lle mae plant yn debygol o fod yn bresennol.
“Byddwn yn parhau i gymryd camau i ddadnormaleiddio’r arfer yma a rhoi neges glir iawn i blant.
“Bydd y cyfyngiadau ar gyfer tiroedd ysbytai yn hyrwyddo newid ymddygiad ac yn cefnogi peidio ag ysmygu ymysg ysmygwyr sy’n defnyddio ein safleoedd a gwasanaethau ysbytai.
“Mae Covid-19 wedi effeithio ar sawl agwedd ar ein bywydau, ond rydym yn benderfynol o barhau i wneud newidiadau cynaliadwy a chadarnhaol.
“Er bod y dystiolaeth ar ysmygu a Covid-19 yn dal i ddod i’r amlwg, yn gyffredinol mae gan ysmygwyr risg uwch o gael heintiau anadlol, megis COVID-19, ac felly mae cyflwyno’r gofynion hyn yn cefnogi ein hymateb i’r pandemig.”