Mae pob Sir yn y Gogledd, heblaw am Wynedd, wedi cael eu rhoi ar restr fonitro’r coronafeirws yng Nghymru.

Golyga hyn fod siroedd Conwy, Dinbych, Wrecsam, Y Fflint ac Ynys Mon ar y rhestr fonitro oherwydd cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.

Bu’r prif weinidog Mark Drakeford yn cyfarfod ag arweinwyr iechyd yn y gogledd ddoe (dydd Llun, Medi 28).

Bydd yn cyfarfod ag arweinwyr y Cynghorau Sir yn y gogledd ddydd Iau (Hydref 28).

Fydd penderfyniad ddim yn cael ei wneud ar gyfyngiadau lleol yn y gogledd tan hynny.

Mae 1.8 miliwn o boblogaeth Cymru yn y de yn cael eu heffeithio gan gyfyngiadau lleol.

Sut mae siroedd y gogledd yn cymharu?

Mae cyfanswm o 5,452 o achosion positif a 423 o farwolaethau wedi eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Mae’r tabl isod yn dangos nifer yr achosion positif ar gyfer pob 100,000 o’r boblogaeth a nifer yr achosion newydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Achosion i bob 100,000
o’r boblogaeth
Nifer yr achosion newydd
Conwy 43.5 51
Sir Ddinbych 41.8 40
Sir y Fflint 39.1 61
Wrecsam 28 38
Sir Fôn 20 14
Gwynedd 15 12

Data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am wythnos Medi 19-25 yn gywir fore Medi 29.

‘Darlun cymysg yn y gogledd’

Ddechrau’r wythnos, dywedodd Mark Drakeford fod “darlun cymysg” yn y gogledd, lle nad oes cyfyngiadau lleol wedi eu cyflwyno eto.

“Os oes angen i ni weithredu, fe wnawn ni,” meddai.

“Dyw’r sefyllfa ddim mor glir yno â beth yw hi yn y de, ac rwyf am wneud yn siŵr ein bod yn edrych ar y sefyllfa yn fanwl.”

Pan fydd achosion positif yn codi i dros 5% mewn siroedd gwahanol, mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu drwy eu rhoi ar restr fonitro ac ystyried a oes angen cyflwyno cyfyngiadau lleol.

Yn ogystal ag ystadegau, mae unrhyw benderfyniad hefyd yn ddibynnol ar ddod o hyd i glystyrau lleol, neu a ydy’r feirws yn lledaenu yn y gymuned.