Bydd Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd y BBC, yn wynebu pwyllgor seneddol am y tro cyntaf heddiw (dydd Mawrth, Medi 29).

Bydd yn mynd gerbron y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon am 10 o’r gloch, ochr yn ochr â Syr David Clementi, cadeirydd y Gorfforaeth.

Mae’n debygol o gael ei holi am gynlluniau i dorri costau ac effaith y cynllun i ddatgriminaleiddio peidio â thalu ffi’r drwydded.

Bydd e hefyd yn cael ei holi am gyflogau rhai o “sêr” ac uwch reolwyr y BBC ar ôl iddyn nhw gael eu datgelu’n gynharach y mis yma.

Bydd nifer o benaethiaid eraill, gan gynnwys y prif swyddog gweithredol Glyn Isherwood a’r cyfarwyddwr polisi Clare Sumner, hefyd yn mynd gerbron y pwyllgor, fydd yn cael ei gadeirio gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol Julian Knight.

Gyrfa Tim Davie

Fe wnaeth Tim Davie olynu’r Arglwydd Tony Hall ddechrau’r mis yma.

Roedd e yn y swydd dros dro am bedwar mis ar ôl i George Entwistle ymddiswyddo yn 2012 a chyn i’r Arglwydd Hall gael ei benodi.

Roedd e hefyd yn brif weithredwr BBC Studios am gyfnod.

Mae Tim Davie wedi pwysleisio pwysigrwydd bod yn ddi-duedd ers iddo gael ei benodi i’r swydd.

Bu’r Gorfforaeth yn destun sawl ffrae yn ddiweddar, gan gynnwys geiriau caneuon Noson Ola’r Proms a ffi’r drwydded i bobol dros 75 oed.

Yn ôl adroddiadau’r wasg, mae’r prif weinidog Boris Johnson yn awyddus i weld Paul Dacre, cyn-olygydd y Daily Mail, yn cael ei benodi’n gadeirydd y rheoleiddiwr Ofcom.